Agorwyd cronfa newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym mis Ionawr eleni o’r enw Llais y Lle. Ei bwriad yw i gefnogi unigolion creadigol i weithio gyda chymunedau o Fôn i Fynwy, i ddatblygu defnydd, a pherchnogaeth, o’r iaith Gymraeg.

Rhannwyd  £250,000 o arian loteri rhwng naw cywaith oedd yn cysylltu artistiaid gwahanol â grwp cymunedol penodol. Yn ogystal, cafodd chwe unigolyn creadigol arian i ddatblygu syniadau ymhellach ar gyfer defnyddio’r celfyddydau i hyrwyddo a thrafod y Gymraeg.

Mae nifer o’r cynlluniau bellach yn eu hanterth.

Llais y Lle Sir Drefaldwyn – Myfanwy Alexander

Does dim pwynt cael miliwn o siaradwyr Cymraeg os nad ydynt yn defnyddio’r iaith. Gan weithio gyda siaradwyr yr iaith – hen a newydd – bydd Llais y Lle Sir Drefaldwyn yn datblygu cysylltiadau, a syniadau creadigol, i roi lle canolog i’r Gymraeg. Gan weithio â grwpiau cymunedol gwahanol i ddatblygu’r syniadau gorau iddynt, bydd y prosiect hwn yn datblygu pobl creadigol ac yn rhoi caniatâd i bawb gael datgan “Mae hon yn iaith imi hefyd”.

Catrin Doyle – Cymuned greadigol Pontypridd

Llais y Lle Pontypridd: Rydym yn gymuned o bobl greadigol sy’n gweithio yn lleol ym Mhontypridd ar brosiectau cyfranogol ac amrywiol. Trwy'r cynllun Llais y Lle byddwn yn dod at ein gilydd i archwilio trwy ddulliau arbrofol sut i ddatblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg o fewn ein cymuned o bobl greadigol, a thu hwnt. Bydd yr artistiaid Catrin Doyle, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies yn ei gyd-gynhyrchu.

Eddie Ladd - Cware

Mae pentref Talgarreg yng Ngheredigion yn swatio rhwng dau gwarel - Crug-Yr-Eryr a Chaer Faerdre. Adeiladwyd cartref yr arlunydd lleol, Meinir Mathias, o gerrig melyn Cware Caer Faerdre. Trwy glonc, theatr, dawns, paent, ffilm a ffotograffiaeth hoffai Meinir, Eddie Ladd a Lleucu Meinir archwilio arwyddocâd y ddau gwarel i'r pentref gyda'i drigolion. Byddant yn rhoi nifer o ffyrdd i ymarfer a chynnal y Gymraeg ar eu prawf mewn nifer o feysydd creadigol.

Rhodri Owen – Ysbyty Ifan

Bydd Rhodri’n dod ag unigolion creadigol y gymuned at ei gilydd i greu dehongliadau artistig a gwahanol o chwedloniaeth a llen gwerin ardal Ysbyty Ifan. Mae’r hanes yn hen ond bydd y profiadau creadigol yn gyfoes, gwahanol a hwyliog. Y mynychwyr fydd yn penderfynu ar gyfeiriad y prosiect gyda chyfle i brofi sawl cyfrwng.

Rhiannon White – We No Longer Talk

Mae ‘We No Longer Talk’ yn gywaith rhwng yr artistiaid Rhiannon White, sydd ddim y siarad Cymraeg, a Ffion Wyn Morris, sy’n medru’r iaith. Gan edrych ar stori’r iaith, dosbarth cymdeithasol a disgwyliadau cymunedau mewn gwlad ddwyieithog, bydd yr artisitiad yn cymharu’r profiad mewn dwy gymuned benodol: stâd cyngor yng Nghaerdydd, ac un ym Methesda. Byddant yn dod â’r ddwy gymuned ynghyd i drafod yr hyn sydd yn wahanol ac yn gyffredin wrth ystyried iaith ac hunaniaeth.

Manon Williams – Llanfairfechan a Phenmaenmawr

Gan gydweithio gyda chymunedau Llanfairfechan a Phenmaenmawr, a chynnig gweithgareddau creadigol amlddisgyblaeth gyda'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg wrth eu craidd, bwriad Manon yw ymblethu y tirlun, hanes a chwedlau i greu dathliadau cymunedol

Iola Ynyr - Mwy

Bwriad 'Mwy' yw cynnig cyfres o weithdai cyfranogol creadigol i ddefnyddwyr hwb cymunedol ‘Porthi Dre’ yng Nghaernarfon, ar gyfer oedolion sydd yn adnabod eu hunain yn fenywaidd, i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae am ddarganfod sut y gall gofod diogel ganiatáu i ferched o bob oed yng Nghaernarfon brofi 'mwy', datgelu 'mwy' o bwy ydyn nhw yn eu hanfod, yn greadigol, ac i fyw yn 'fwy' trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddinasyddion iach, gan gynnal eu llesiant.

Gwenllian Spink – Lledrith ein Lleisiau

Amcan y prosiect yw cofleidio ac archwilio’r haenau cyfoethog o chwedleuo ecolegol mewn perthynas ag iaith, hanes a diwylliant Dyffryn Nantlle. Trwy gyfres o weithdai, bydd Gwenllian yn chwarae efo iaith drwy ail-ddychmygu stori Blodeuwedd (sydd â chysylltiadau cryf yn y Dyffryn) gan ganolbwyntio ar y persbectif "annynol", drwy ddychmygu’r stori o safbwynt planhigion, creaduriaid a thirnodau’r chwedl. Byddwn yn dathlu wrth i iaith ei hun esblygu, gan gario dylanwadau ieithoedd eraill, boed yn ddynol neu annynol.

Eric Lesdema - Perthyn

Mae Perthyn yn gydweithrediad rhwng yr artist Eric Lesdema ac aelodau Academi Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Gan weithio gyda siaradwyr a chefnogwyr, bydd y prosiect yn herio hierarchaethau a bydd yn canolbwyntio ar ein profiadau byw mewn ffordd ddemocrataidd ddiwylliannol o fewn ac ar draws y brifysgol. Bydd yn gam enfawr tuag at wireddu gweledigaeth Academi Gymraeg o ddiwylliant Cymraeg ar draws ein holl weithgareddau - un sy'n berthnasol ac sy'n cynnal gwerthoedd cysylltedd, amrywiaeth, cynaliadwyedd, lles, dealltwriaeth ddiwylliannol a'n dyletswydd i genedlaethau'r dyfodol.

Dyma’r chwech unigolyn sydd wedi derbyn arian datblygu:

  • Hedydd Ioan,
  • Jacqueline Ley
  • Llinos Griffin
  • Angharad Owen
  • Rhiannon Mair
  • Naomi Keevil