Jukebox Collective yn cyhoeddi ei ran yn arddangosfa Beyond the Bassline yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain. Fel eu partner yng Nghymru, mae eu ffilm Of Us, yn rhannu persbectif difesur ar y dasg o archwilio 500 mlynedd o gerddoriaeth Ddu ym Mhrydain.

 

Mae Beyond the Bassline (Ebrill 26 - Awst 26, 2024) yn nodi moment hanesyddol gan mai dyma’r arddangosfa fawr gyntaf i ddogfennu taith gerddorol gyfoethog pobl Affricanaidd a Charibïaidd ym Mhrydain. Trwy arddangosfa o archifau sain, arteffactau, perfformiadau, a chyflwyniadau amlgyfrwng, mae’r arddangosfa’n archwilio’r bobl, y gofodau a’r genres sydd wedi trawsnewid tirwedd cerddoriaeth Prydain, gan ymchwilio i effaith cerddorion, pobl greadigol ac entrepreneuriaid Du Prydeinig ar gerddoriaeth boblogaidd ers yr 16eg ganrif.

 

Mae Of Us (2024), cynhyrchiad Jukebox Collective, a gomisiynwyd gan y Llyfrgell Brydeinig, yn cael ei gyflwyno yng ngofodau “ymyriadau/interruption” yr arddangosfa. Liara Barussi yw cyfarwyddwr a choreograffydd y ffilm ac fe’i ffilmiwyd yn Ne Cymru; mae’r ffilm yn talu teyrnged i dreftadaeth un o gymunedau Du hynaf y DU sydd wedi’i lleoli yn Tiger Bay, Caerdydd. Trwy ddawns a symudiad, mae’n myfyrio ar themâu ymfudo, hunaniaeth a’r cysylltiad hynafiadol parhaus rhwng y corff a’r cof.

 

“Mae Of Us yn teithio i isleisiau ein moroedd, gan blethu straeon am ymfudo â symbolaeth gyffredinol dŵr. Gan adleisio cysyniadau Black Aquatic a Tidalectics, mae’r ffilm yn cyfosod yr hylifol a’r sefydlog” meddai Cyfarwyddwr Artistig Jukebox Collective, Liara Barussi. 

 

Caiff y ffilm fer ei harddangos yng ‘ngofod y cefnfor/ocean space’ a bydd yn cynnig profiad gweledol a chlywedol ymdrwythol i ymwelwyr. Mae’n cynnwys seinwedd gan lwyfan curadurol Touching Bass o dde Llundain gyda’r gwaith steilio gan Lauren Anne Groves ynghyd â darnau gan frandiau sy’n eiddo i Bobl Dduon, ac yn eu plith ceir Ahluwalia a Jawara Alleyne. Mae’r ffilm hefyd yn rhoi llwyfan i gast o dalent ifanc Du Cymru o raglen ‘datblygu artistiaid’ y sefydliad.

 

“Mae’n anrhydedd i ni gynrychioli Cymru yn yr arddangosfa hanesyddol hon; mae’r ffilm yn talu teyrnged i gymunedau Duon Cymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu a’u tangynrychioli. Tynnir sylw at eu treftadaeth a'u diwylliant gan eu bod yn croestorri â naratif ehangach cerddoriaeth Ddu Brydeinig.” - Liara Barussi

 

Wedi'i churadu gan Dr Aleema Gray mewn cydweithrediad â Dr Mykaell Riley, mae Beyond the Bassline yn addo ehangu dealltwriaeth y gynulleidfa o gerddoriaeth Ddu Brydeinig a'i safle oddi mewn i dreftadaeth gerddorol Prydain.

 

Hanes Jukebox Collective 

 

Mae Jukebox Collective yn gydweithfa gymunedol sy’n cael ei harwain gan bobl ifanc sy’n meithrin lleisiau creadigol yr yfory. Mae eu hasiantaeth greadigol yn arbenigo mewn castio, curadu a chynhyrchu, ochr yn ochr â rhaglen gymunedol amlddisgyblaethol sydd wedi’i llunio o gylch datblygiad artistiaid.

 

Mae gan Jukebox Collective hanes o ddatblygu talent a chynhyrchu gwaith creadigol sydd ar flaen y gad yn niwylliant Cymru. Mae eu portffolio eang wedi eu gweld yn partneru â gweithredwyr newid byd-eang, o Jamaica i Orllewin Affrica, trwy groestoriad o ddiwylliant ieuenctid, dawns, cerddoriaeth a mwy.

Am yr Arddangosfa 

 

I gael gwybodaeth bellach am yr arddangosfa ewch i beyondthebassline.seetickets.com

Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein gyda dyddiau Talu’r Hyn a Allwch ar gael ar ddydd Mercher cyntaf pob mis.

 

Credydau Ffilm Film Credits

 

Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Symud: Liara Barussi

Cynhyrchydd: Lauren Patterson

Cyfarwyddwr ffotograffiaeth:  Nathan O’Kelly

Dylunio Sain: Touching Bass

Steilydd: Lauren Anne Groves

Ymgynghorydd Creadigol: Leyman Lahcine

Cast Arweiniol: Gui Pinto, Venice Williams, Monet Williams

Cast: Jukebox Academy - Teaghan Scanlon, Karim Mohamed, Fatima Jarju, Ayoola Wonder, Elizabeth Oredola, Perez Rodriques, Rio Rodriques, Quincy Chambers, Akeylah Hinton, Blessing Oredola, Sheighley-Sky

Cynorthwywyr Symudiadau: Darnell Williams, Naomi Ferne, Patrik Gabco, Millie Campion 

Steilydd Gwallt: Trent Jackson 

Barbwr: Isaac Omoyibo

Golygydd: Pawel Achtelik

Lliwiwr: Sharon Chung

Dylunio Graffig: Henny Valentino

 

Am fwy o wybodaeth ewch i

https://jukeboxcollective.com/news-post/of-us-jukebox-collective/