Mae Ramshacklicious & Hijinx yn falch iawn i gyhoeddi bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dyfarnu cyllid i ni i ddatblygu cyd-gynhyrchiad awyr agored newydd o’r enw Y Gwir – Truth.

Byddwn yn gweithio gyda chriw o 7 o berfformwyr o’r ddau gwmni dan gyfarwyddyd Flick Ferdinando i greu darn theatrig crwydrol, rhyngweithiol enfawr sy’n ymchwilio syniadau Rhyddid a rheoli mewn ffyrdd llawen a phryfoclyd.

Rydym yn creu’r sioe drwy gydol mis Gorffennaf – gyda pherfformiadau yng Nghymru a’r Alban dros yr haf.

Cadwch lygad ar y gofod hwn i weld y sioe yn dod yn fyw ac am gyhoeddiadau am berfformiadau

Mae Ramshacklicious yn godwyr twrw theatr anarchaidd o’r de orllewin a fu’n creu profiadau theatrig cyfoes, tanseiliol ansawdd uchel ar gyfer yr awyr agored a gofodau wedi eu hailbwrpasu ers 2006.

Ystyrir yn eang fod Hininx yn un o brif gwmnïau theatr cynhwysol Ewrop, yn creu theatr cyffrous, tanseiliol gyda pherfformwyr gydag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth. O raddfa fawr i raddfa fach ar gyfer dan do a’r awyr agored.

Cerfnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.