Mae Unlimited yn cynnig 14 o wobrau i artistiaid anabl ledled y DU. Bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £600,000 i gomisiynu artistiaid ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. 

Fel y comisiynydd mwyaf yn y byd ym maes celfyddydau’r anabl, mae Unlimited wedi bod yn cefnogi artistiaid anabl ers 2013. Ein cenhadaeth yw comisiynu gwaith rhyfeddol gan artistiaid anabl a fydd yn newid ac yn herio’r byd, hyd nes y bydd y sector celfyddydol cyfan yn gwneud hynny. 

Bydd y gwobrau yn rhoi cyfle i artistiaid anabl ddatblygu a chyflwyno gwaith ledled y wlad a/neu yn rhyngwladol. Maent yn agored i unrhyw artistiaid anabl sydd wedi eu lleoli yn y DU i’w galluogi i ddod â’u syniadau’n fyw.  Gall prosiectau fod mewn unrhyw gam o’u datblygiad ac ar draws ystod eang o ffurfiau celfyddydol.

Cat Sheridan, Uwch Gynhyrchydd, Unlimited: “Rydyn ni’n hynod gyffrous i allu dyfarnu £600,000 ar gyfer y rownd hon o gomisiynau. Daw gyda gwahoddiad agored i artistiaid anabl i gyflwyno cais gyda’u syniadau gwirioneddol radical, uchelgeisiol, a gwreiddiol ar draws ystod eang o ffurfiau celfyddyd, meintiau a graddfeydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld pa waith gwych fydd yn cael ei gefnogi gan y buddsoddiad hwn.” 

Mewn cynllun a wnaed yn bosibl gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, a’r Alban Greadigol,  rydym wrth ein bodd yn cynnig naw o wobrau yn y DU yn amrywio o £15,000 i £80,000 i artistiaid sydd wedi eu lleoli yn Lloegr, yr Alban neu Gymru. Bydd y gwobrau’n cefnogi creu gwaith newydd rhyfeddol yn y ffurfiau hyn ar gelfyddyd: drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, a’r celfyddydau cyfunol.

Pete Massey, Cyfarwyddwr y Gogledd, Cyngor Celfyddydau Lloegr: “Mae Unlimited yn newid y canfyddiad o anabledd ac yn herio’r sector diwylliant trwy gomisiynu artistiaid anabl, tra ar yr un pryd yn cefnogi pobl ym mhob cymuned i’w mynegi eu hunain mewn modd creadigol a chael profiad o’r celfyddydau a diwylliant. Rwyf wrth fy modd ein bod yn eu hariannu fel Sefydliad Portffolio Cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith rhyfeddol y bydd y gwobrau hyn yn eu cefnogi.”

Amanda Loosemore, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae rhaglen gomisiynu Unlimited yn hanfodol wrth ddarparu cymorth pwrpasol, codi proffil artistiaid anabl, ac amlygu’r ystod anferth o waith cyffrous sy’n cael ei greu ledled y DU. Rydym wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o hyn yng Nghymru, a thros nifer o flynyddoedd mae’r effaith a gafodd y rhaglen ar artistiaid anabl sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn parhau i gryfhau a thyfu, gan chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws sector y celfyddydau.”

Stuart Cameron, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Yr Alban Greadigol: “Unwaith eto, mae rhaglen gomisiynu Unlimited yn darparu cyfle cyffrous ar gyfer artistiaid anabl ledled y DU ac yn annog newid go iawn o fewn sector y celfyddydau. Mae’r llwyfan maen nhw’n ei ddarparu yn gallu rhoi hwb i dderbynwyr y gwobrau i mewn i yrfa yn y Celfyddydau, ac yn dangos i weddill y sector sut i herio arferion gwahaniaethol ac agweddau gwaharddol sydd, yn anffodus, yn parhau i fod yn rhwystr i ymarferwyr anabl.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r Alban Greadigol wrth eu bodd yn gallu cefnogi datblygu comisiynau rhyfeddol, ac agor y cyfle anhygoel hwn i artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yn yr Alban. Byddem yn annog unrhyw artist anabl o’r Alban sy’n edrych ar y rhaglen i neidio at y cyfle i ddod â syniadau’n fyw, i herio canfyddiadau, a newid y dulliau o weithio.”

Mewn partneriaeth â’r Cyngor Prydeinig, rydym yn cynnig pum gwobr ryngwladol i alluogi artistiaid i ffurfio cydweithrediadau gyda nifer o wledydd ledled y byd. Byddwn yn cynnig hyd at £50,000 fesul comisiwn i artistiaid fel y gallant greu gwaith newydd, cyffrous, ar draws pob ffurf gelfyddydol.

Neil Webb, Cyfarwyddwr Theatr a Dawns, Y Cyngor Prydeinig: "Mae angen i’r byd symud i greu gwell mynediad a chynhwysiant i bobl anabl, ac wrth gefnogi’r gwobrau hyn drwy Unlimited, gall y Cyngor Prydeinig fod yn rhan o’r naratif hwnnw o newid. Trwy ffocysu ar wledydd sydd yn hanesyddol wedi cael llai o fynediad at gyfnewid a chefnogi, rydym yn falch iawn o ddarganfod beth allwn ni ei ddysgu, yn ogystal â beth allwn ni ei rannu, o waith artistiaid anabl.”

Mae Unlimited yn comisiynu gwaith rhyfeddol gan artistiaid anabl, a’r gwaith hwnnw’n wrthryfelgar, anturus, ysbrydoledig a chwareus. Rydyn ni’n credu ym mhŵer y gwaith hwn i newid a herio’r byd. Yn y gorffennol, mae comisiynau wedi amrywio o ran ffurf ar gelfyddyd a graddfa, o brosiect theatr yn archwilio profiad LGBTQ+ anabl yn Ucheldiroedd yr Alban, sioe ddawns un-fenyw wedi ei hysbrydoli gan ddiwylliant gwallt pobl dduon, a phrofiad coedwig ymdrochol a grëwyd ym Mrasil a’r DU, i berfformiad syrcas a ddyfeisiwyd gan artistiaid yn y DU a Simbabwe. Edrychwn ymlaen yn gyffrous at weld pa greadigaethau arloesol y bydd artistiaid anabl yn dod â hwy’n fyw eleni.


Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth am gyhoeddi’r gwobrau heddiw, a manylion am sut i baratoi cais, yma. Bydd y porth ymgeisio yn agor ddydd Iau 31 Awst 2023 ac yn cau ddydd Llun 2 Hydref 2023.