Bydd arddangosiad swyddogol Cymru yn dychwelyd i Ŵyl Ymylol Caeredin fis Awst eleni, gyda thair sioe i godi’r galon gan grŵp o artistiaid eithriadol sy’n pontio disgyblaethau, a’r rheini’n trin a thrafod pynciau cyfoes drwy ddawns, cerddoriaeth a pherfformiad.

Rhwng 22 a 26 Awst, bydd y sylw ar Gymru wrth i dîm o artistiaid perfformio profiadol a newydd gymryd rhan yn Wythnos Arddangosfa Dyma Gymru yng Nghaeredin. A honno’n cael ei chyflwyno gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd wythnos yr arddangosfa yn gwahodd cynulleidfaoedd o bob rhan o’r byd i gael blas o Gymru, a hynny drwy berfformiadau o’r radd flaenaf gan artistiaid eithriadol.

Wedi’u dewis i berfformio yn Arddangosfa Dyma Gymru yng Nghaeredin mae:
Common Wealth & Darren Pritchard – ‘Payday Party’
Dirty Protest – ‘Double Drop’
Jo Fong a George Orange – ‘The Rest of Our Lives’

Mae’r artistiaid hyn wedi cael eu noddi drwy Gronfa Cymru yng Nghaeredin, sy’n cael ei gweinyddu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd y broses ddethol yng ngofal panel o arbenigwyr o’r diwydiant gan gynnwys:

Dawn Walton – Dramodydd a chyfarwyddwr annibynnol i theatr a ffilm, ymgynghorydd celfyddydau
Claire Verlet - Théâ
tre de la Ville, rhaglennydd
Liara Barussi - Jukebox Collective, cyfarwyddwr artistig
Krystal Lowe – Dawnsiwr, coreograffydd, awdur, cyfarwyddwr
Tunde Adefioye -
Darlithydd, traethodydd, hyfforddwr, dramaturg 
Nici Beech – Ymgynghorydd celfyddydau annibynnol, rhaglennydd
Maggie Dunning (cadeirydd) – Cyngor Celfyddydau Cymru, Rheolwr Prosiect

Yn bresennol:
Natasha Nicholls – British Council Cymru, Rheolwr Celfyddydau
Louise Miles-Payne – Creu Cymru, Cyfarwyddwr
Eluned Hȃf – Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am berfformiadau’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn yr arddangosfa isod.
 

Yn ymuno â’r rheini sydd wedi cael arian drwy Gronfa Cymru yng Nghaeredin, mae cyfranogwyr Rhaglen Hadu’r Dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo artistiaid a chyfarwyddwyr newydd a phrofiadol, nad ydyn nhw eto wedi bod â’u gwaith i’r Ŵyl Ymylol, gan eu helpu i gyflawni eu potensial i arddangos yn y dyfodol. Aelodau’r y panel dethol oedd Dawn Walton, Jafar Iqbal, Fadhili Maghiya, Elen Roberts, Elin Roberts, Jenny Stoves ac wedi’i gadeirio gan Maggie Dunning.

Dyma’r rheini sy’n rhan o Raglen Hadu’r Dyfodol:
Callum Lloyd
Isaac George
Krystal Lowe
Hannah Lloyd
LOYALTY
Cwmni Theatr Taking Flight
Rhiannon Mair
Jukebox Collective
Gareth Chambers

Meddai Maggie Dunning, Rheolwr Prosiect sy’n arwain rhaglen Cymru yng Nghaeredin: “Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn yn gallu cefnogi grŵp unigryw o artistiaid a chynhyrchwyr i fynd i’r Ŵyl Ymylol eleni, ac yn gobeithio y bydd y cyfle hwn yn eu galluogi i brofi sut beth yw arddangos mewn ffordd newydd. Roedd ansawdd y ceisiadau i’r rhaglen hon yn eithriadol, ac mae nifer yr artistiaid llwyddiannus yn dangos y dalent gyffrous sy’n cael ei meithrin ym mhob cwr o Gymru.”
 

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cymru yng Nghaeredin yn gyfle gwych i arddangos gwaith sy’n adlewyrchu nodweddion bywiog, pryfoclyd a chryf ein sîn celfyddydau perfformio yng Nghymru. Rwy’n siŵr y bydd y tair sioe a ddewiswyd yn dal sylw yn yr Ŵyl orlawn honno! A dwi wrth fy modd yn gweld parhad y rhaglen Hadu’r Dyfodol ar gyfer artistiaid a chynhyrchwyr sydd heb fynd â sioeau i’r Ŵyl o’r blaen. Bydd y cysylltiadau a’r cynghreiriau a wnânt yng Nghaeredin yn rhoi ysgogiad newydd i’w gyrfaoedd creadigol.”

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn edrych ymlaen at y cyfle i wrando’n astud ar drafodaethau yn y Gynhadledd Diwylliant a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaeredin yn dilyn wythnos Arddangosiad Cymru.

Ceir mwy i wybodaeth ar gyfranogiad Cymru yn y Gynhadledd Diwylliant yn fuan.

 

Mwy am y Cwmnïau sy’n Arddangos

Common Wealth & Darren Pritchard
Payday Party

Theatr (Gwleidyddol, Bywyd Go Iawn)
AceDome, Pleasance Dome, 1 Bristo Square, Caeredin, EH8 9AL
23-27 Awst | 14:40 (15:40) | £7-11.50
Swyddfa Docynnau: 0131 556 6550 | www.pleasance.co.uk

Payday Party gan Common Wealth yw’r parti gwleidyddol cyfreithiol mwyaf cyfareddol ewch chi iddo. Chwe artist sy’n rhannu eu straeon go iawn a’u talentau yn y gobaith o gael eu talu gan y gynulleidfa. Mae caneuon, dawns, rap, geiriau a cherddoriaeth fyw yn cael eu taflu i’r pair o anobaith i goginio cacen oroesi y byddai Marie Antoinette yn falch ohoni. Drwy archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes, o ddosbarth gweithiol ac yn y celfyddydau, mae Payday Party yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r oes sydd ohoni, gan roi llais i'r rheini sydd ddim yn cael eu llwyfannu'n aml yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a thu hwnt. Mae’r gwaith beiddgar newydd yn mynd i’r afael â hiliaeth, elitiaeth a dosbarth cymdeithasol, gan ymdrin â'r argyfwng costau byw, llymder a chasgliadau’r ymchwiliad i sgandal partïon y cyfnod clo yn San Steffan.

 

Dirty Protest
Double Drop

Theatr (Ysgrifennu Newydd, Drama)
Anatomy Lecture Theatre, Summerhall, 1 Summerhall Place, Caeredin, EH9 1PL
3-7, 9-14, 16-21, 23-28 Awst | 15:20 (16:20) | £8-13
Swyddfa Docynnau:
0131 560 1581 | www.summerhall.co.uk

Mae Double Drop gan Dirty Protest Theatre yn seiliedig ar brofiadau o dyfu i fyny mewn diwylliant traddodiadol Gymreig yng Ngogledd Cymru yng nghanol y nawdegau. Mae’r ddrama newydd hon â cherddoriaeth yn ymwneud â dod i delerau â’ch cywilydd drwy greu eich diwylliant eich hun. Mae’r ddrama yn edrych ar ddefodau a seremonïau’r Eisteddfod yn gwrthdaro â chydberthynas a throsgynnedd rêf. Mae Double Drop wedi’i ysgrifennu gan y cwmni ysgrifennu newydd llwyddiannus ac awdur, perfformiwr, sylfaenydd a phrif leisydd y grŵp gwerin 9Bach, Lisa Jên Brown. Crëwyd y gwaith doniol, meddylgar, a swynol hwn yn wreiddiol fel drama sain 20 munud yn ystod cyfnod clo cyntaf y pandemig er mwyn i gynulleidfaoedd ei fwynhau wrth fynd am dro. Drwy’r trydydd cyfnod clo yn 2021, datblygwyd y cynhyrchiad mewn pythefnos yn arbennig ar gyfer hyb awyr agored y ‘MultiStory’ yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2021. Ar ôl gwerthu pob tocyn a chanmoliaeth gan gynulleidfaoedd, mae’r tîm bellach wedi datblygu’r ddrama yn gynhyrchiad newydd sbon wedi’i gwireddu’n llawn.

 

Jo Fong a George Orange
The Rest of Our Lives

Dawns, Theatr Gorfforol a Syrcas (Comedi, Cabaret)
Old Lab, Summerhall, 1 Summerhall Place, Caeredin, EH9 1PL
16-21, 23-28 Awst | 10:15 (11:15) | £8-13 | 14+
Swyddfa Docynnau: 0131 560 1581 | www.summerhall.co.uk

Mae The Rest of Our Lives gan Jo Fong a George Orange yn cabaret doniol sy’n dathlu bywyd a phorth angau, ac yn ddos boreol llawen o ddawns, syrcas a gemau. Mae’r perfformiad yn cynnwys dau fywyd canol oed sydd mewn dirywiad eclectig, digymell, rhagweladwy. Hen ddawnsiwr yw Jo ac mae George yn hen glown. Maen nhw’n artistiaid rhyngwladol sydd â 100 mlynedd o brofiad bywyd rhyngddynt, gyda thrac sain o ganeuon dawnsio, llyfr o docynnau raffl a rhywfaint o optimistiaeth eco-gyfeillgar.