Mae Queertawe yn chwilio am ddylunydd theatr profiadol i weithio gyda ni ar ein prosiect rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2024.

Rydym wedi clustnodi 4 diwrnod ym mis Rhagfyr er mwyn llwyfannu digwyddiadau creadigol dan arweiniad pobl gwîar yng nghanol Abertawe. Gobeithiwn y bydd y rhain yn cynnwys amrywiaeth o bethau, er enghraifft perfformiadau cabaret, arddangosfeydd celf, perfformiad, darnau symud, cyngherddau… mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

Dyma gyfle unigryw i fod yn brif ddylunydd a fydd yn gweithio gyda’n cyfranogwyr i greu elfennau o’r set, y props a’r gwisgoedd.

Mae’r cyfle hwn yn agored i unigolion neu gydweithfeydd bychan o bobl sy’n cydweithio.

Cyfrifoldebau hanfodol y swydd:

  • Bod yn brif ddylunydd ar gyfer Prosiect Queertawe
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf a dod i gyswllt â’r tîm creadigol gan gynnwys y prif artistiaid, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd cymunedol a chynhyrchydd o ran y cyfeiriad creadigol ar gyfer elfennau gweledol a dylunio’r prosiect a’r cynhyrchiad
  • Arwain gweithdai yn y gymuned gyda chyfranogwyr Queertawe
  • Cynnwys gwaith yn y gymuned o fewn y dyluniad
  • Dod o hyd i ddeunyddiau ar gyfer elfennau dylunio’r cynyrchiadau
  • Creu elfennau dylunio ar gyfer y cynyrchiadau
  • Rheoli’r gyllideb yn unol â’r cynhyrchydd
  • Creu man diogel a chreadigol ar gyfer cymunedau cwîar
  • Dod i gyswllt ag artistiaid eraill ynghylch y prosiect
  • Cydlynu gydag adrannau amrywiol, er enghraifft cynhyrchu a rheoli llwyfan, er mwyn sicrhau bod yr elfennau dylunio yn cael eu cyflawni’n brydlon ac yn effeithlon.

Byddai’r rôl hon yn cynnwys gweithdai cymunedol a fyddai’n dechrau yn ystod yr Haf ac yn  parhau drwy’r Hydref, yn ogystal ag ymrwymiad egsgliwsif rhwng 25 Tachwedd a 10 Rhagfyr.

Mae'r ffi yn cyd-fynd â chyfraddau Equity a bydd yn cael ei drafod ag artistiaid yn ystod y cyfweliad.

Os oes diddordeb gennych yn y cyfle hwn, yna gofynnwn yn garedig i chi gyflwyno’r ffurflen isod.

Os hoffech holi am y cyfle hwn cyn cyflwyno cais, anfonwch neges e-bost i queertawe@messupthemess.co.uk

DYDDIAD CAU 10 Mai 12pm.

Dyddiad cau: 10/05/2024