Gall prifysgolion a cholegau Cymru enwebu myfyrwyr gradd y teimlant y byddent yn elwa fwyaf o’r cyfle unigryw hwn i helpu i’w sefydlu yn eu blwyddyn gyntaf fel gweithiwr creadigol proffesiynol.

Y dyddiad cau ar gyfer gwobr eleni yw 25 Mai 2022.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn croesawu’n arbennig enwebiadau i gefnogi myfyrwyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Gallai diffyg cynrychiolaeth olygu pobl sy’n wynebu rhwystrau i gyfleoedd oherwydd eu rhywioldeb, ethnigrwydd, cefndir cymdeithasol ac economaidd, neu anabledd.

Gadawodd Brian Ross ei ystâd i Gyngor Celfyddydau Cymru gan ddweud y dylid defnyddio ei etifeddiaeth i annog a chefnogi artistiaid newydd i ddatblygu eu gwaith ac i hybu eu gyrfaoedd. Ers 2011 mae’r waddol hon wedi cael ei defnyddio i gefnogi artistiaid gweledol yng nghamau cynnar eu gyrfa artistig broffesiynol.

Mae gwybodaeth am feini prawf a chanllawiau ar gael yma: https://arts.wales/cy/resources/brian-ross-memorial-award-guidelines