Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Adfywio a Chynllunio ehangach.
 
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,269 - £32,076 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.  
 

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Technegol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo'r Rheolwr Technegol i sicrhau bod y Gwasanaeth Theatr a'r Celfyddydau yn darparu'r lefel uchaf o wasanaethau technegol ar gyfer ystod eang o berfformiadau a digwyddiadau, gan gynnwys darparu cymorth technegol i hurwyr y theatr, cymorth i sioeau proffesiynol a chwmnïau cynhyrchu sy'n defnyddio Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a lleoliadau eraill (dan do ac awyr agored), yn lleol ac yn genedlaethol, trwy ein gwaith teithiol. Byddwch chi hefyd yn dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Technegol pan fo angen.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:

  • Cymhwyster Lefel 6 (Gradd) perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, gradd mewn Theatr Dechnegol.
  • City and Guilds 2365 (Diploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol) neu barodrwydd i weithio tuag ato o fewn amserlen wedi'i chytuno gyda'r rheolwr llinell ar ôl y penodiad.
  • Profiad o waith goleuo, sain a rheoli llwyfan mewn theatr, a gweithredu systemau sain llawn mewn amgylchedd byw.

 

Gwybodaeth dda am agweddau gweithredol ar lwyfannu, goleuo, sain, ac offer digidol a chlyweledol theatrig mewn theatr.
 

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

 

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Robin Bainbridge ar  01495 227206 neu ebost: bainbr@caerphilly.gov.uk

Dyddiad cau: 16/05/2024