Mae deg o bobl ysbrydoledig o Gymru yn y ras am gydnabyddiaeth wedi iddynt gael eu henwebu o fewn adran ‘unigolion neilltuol’ Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2023.

Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yw’r dathliad blynyddol o unigolion a sefydliadau cyffredin sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol. Eleni, cafodd 3,780 o bobl a phrosiectau led led y DU eu henwebu ar gyfer y Gwobrau mewn cydnabyddiaeth o’u hymdrechion diysgog i wella eu cymunedau. 

Erbyn hyn, mae mintai sy’n cynnwys 10 o ymgeiswyr o Gymru ar y rhestr fer yn erbyn 35 o ymgeiswyr o bob cwr o’r DU yn y rownd derfynol o fewn categori unigolyn neilltuol y gwobrau, yn aros i weld a fyddant yn cael eu coroni fel unigolyn neilltuol y DU o fewn eu categori penodol. 

Yn chwifio’r faner dros Gymru o fewn y categori Cymunedau ac Elusennau mae Dr Sarah Miles, un o Gyfarwyddwyr Sylfaenu’r Cwmni Buddiant Cymunedol, With Music in Mind. Enwebwyd Sarah am ei hymdrechion wrth sefydlu a rhedeg y sefydliad nid–er-elw, a gefnogir gan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n helpu mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ymysg pobl hŷn trwy ganu, ymarfer corff ysgafn, a sesiynau cymdeithasol.  

O fewn categori’r amgylchedd, enwebwyd Lee Jones o Glynrhedynog, sef cydlynydd prosiect Stepping Out Into Nature, a ariennir gan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac a gynhelir gan Bobl yn Gyntaf Rhondda Cynon Taf, am ei ymdrechion diysgog wrth agor drysau i oedolion ag anableddau dysgu a’r gymuned ehangach i ymgysylltu gyda natur, yr amgylchedd a threftadaeth sydd ar garreg eu drws. 

Mae dau unigolyn o Gymru ymysg y pump sydd yn y rownd derfynol o fewn y categori Treftadaeth. Mae Paul Lewin sy’n 59 mlwydd oed ac yn Gyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru yng ngogledd Cymru wedi cael ei enwebu am ei flynyddoedd o wasanaeth ymroddedig, ac fel arweinydd y tîm gweithredu sy’n sicrhau fod rheilffordd dreftadaeth hiraf y DU yn parhau i ffynnu ac i fod ar y trywydd iawn gyda chefnogaeth arian Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Enwebwyd Richard Jones, Newyddiadurwr Clywedol-Gweledol o Gaerdydd hefyd am ei brosiect anhygoel Y Genhedlaeth Olaf o Lowyr, a gefnogir gan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n cyfleu wynebau a thystiolaeth hen gymunedau glofaol Cymru, gan ddiogelu eu storïau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  

Mae deuawd dynamig arall yn falch o gynrychioli Cymru o fewn y categori Chwaraeon. Mae Brian Valentine o Sir y Fflint, a ysbrydolwyd gan ei fab byddar sy’n gwirioni ar bêl-droed i sefydlu clwb pêl-droed iau cynhwysol, yn edrych i sgorio buddugoliaeth arall yn y Gwobrau. Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Iau Tref Shotton Unedig yn 2015 gan Brian, sy’n dad ymroddedig wedi iddo straffaglu i ganfod clwb a fyddai’n diwallu anghenion ei fab byddar, Dylan, yn llawn. Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol trwy Chwaraeon Cymru, mae’r clwb erbyn hyn yn croesawu dros 100 o blant i hyfforddi bob wythnos, gyda sesiynau sydd wedi’u haddasu i gynnwys aelodau sy’n drwm eu clyw ac yn fyddar.  

Yn cadw cwmni i Brian mae Roy Court MBE, hyfforddwr jiwdo 74 mlwydd oed o Gaerdydd. Cafodd Roy ei enwebu am ei wasanaethau i Jiwdo cynhwysol dros y 40 mlynedd diwethaf, gan helpu pobl ag anghenion arbennig ac anableddau i gymryd rhan yn y gamp. Ei gred ers amser hir yw y dylai chwaraeon fod o fewn cyrraedd i bawb, rhywbeth y mae’n ei efelychu trwy ei glwb jiwdo cynhwysol, Jiwdo WISP Cymru, a leolir yng Nghaerdydd ac a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol trwy Chwaraeon Cymru.  

Mae par penigamp o dde Cymru hefyd yn y ras o fewn y categori Arwr/Arwres Ifanc. Enwebwyd Eden Quine-Taylor o Bowys, sy’n 19 mlwydd oed ac yn wneuthurwr ffilm ifanc sydd wedi ennill gwobrau, mewn cydnabyddiaeth o’i hymdrechion neilltuol wrth ddefnyddio grym ffilmiau i annog pobl ifanc i werthfawrogi’r hyn sy’n eu gwneud yn unigolion a chredu ynddynt eu hunain. Mae Eden, sy’n byw ger Aberhonddu, wedi bod yn datblygu ei chrefft mewn gwneuthuro ffilmiau o oedran ifanc gyda chefnogaeth Into Film, elusen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch materion megis bwlio. Mae hi hefyd yn llysgennad dros elusennau sy’n helpu pobl ag afiechydon prin y croen, y mae hi ei hunan wedi ei brofi.

Mae Sakinah Hussain, o Gasnewydd ac yn ei harddegau, wedi cael ei henwebu hefyd am ei rôl wrth ysbrydoli cenhedlaeth o ferched Mwslemaidd ifanc yn y ddinas i gymryd rhan mewn Crefftau Ymladd Cymysg ac arwain bywydau iachach, mwy diogel ac actif. Yn 16 oed yn unig, mae gan Sakinah lond llaw o fedalau eisoes i’w henw. Yn 2020, hi oedd y Mwslim cyntaf i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ieuenctid IMMAF y Byd, gan ennill medal efydd. Mae Sakinah wedi bod yn trosglwyddo ei harbenigedd i ferched ifanc eraill o gefndiroedd amrywiol yn y ddinas sy’n gartref iddi wedi i ‘Exiles Together’, grŵp cymunedol a leolir yng Nghasnewydd ac a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol (trwy Chwaraeon Cymru), ei recriwtio fel hyfforddwraig i ddysgu dosbarthiadau hunan-amddiffyn i fwy na 50 o ferched ifanc.    

Mae Gwobr Cyflawniad Arbennig eleni hefyd i ddathlu unigolyn neilltuol y mae ei ymrwymiad annhunanol wedi gwella bywydau pobl o’u hamgylch, yn enwedig yn ystod yr amseroedd heriol hyn. 

Cafodd Mandy Giddins o’r Fflint, a gollodd Jordan, ei mab 18 mlwydd oed i glefyd prin y gwaed a chanser yn 2017, ei henwebu am ei hymdrechion diysgog wrth wella bywydau cleifion canser ifanc gyda chefnogaeth ymarferol ac anrhegion arbennig. Ysbrydolwyd Mandy, sy’n ymarferydd nyrsio, i wneud rhywbeth gwerth chweil gan agwedd bositif a hiwmor Jordan yn wyneb trallod, er mwyn parhau gyda’i etifeddiaeth. Roedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi creu Giddo’s Gift ac mae Mandy, 55, bellach wedi codi mwy na £350,000 trwy’r elusen i wella bywydau pobl ifanc 13 hyd at 24 mlwydd oedd sydd â chanser ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae hi wedi gweithio gyda channoedd o deuluoedd hyd yn hyn, gan ddarparu ar gyfer dymuniadau o leiaf 50 o blant y flwyddyn yn ychwanegol at wasanaethau cefnogi eraill. 

Yn y ras hefyd ar gyfer Cyflawniad Arbennig mae’r pencampwr treftadaeth nodedig, Dr Mark Baker o Abergele. Roedd yr ymgyrchydd a’r hanesydd brwdfrydig wedi dechrau ymgyrch 25 mlynedd i achub ac adfer Castell Gwrych yng Nghonwy – pan yr oedd yn 11 mlwydd oed yn unig. Mae Mark, sy’n 38 oed erbyn hyn, wedi cysegru ei holl fywyd i achub ac adfer y tirnod hanesyddol, a wnaed yn enwog pan gynhaliwyd y sioe deledu ‘I'm a Celebrity… Get Me Out of Here’ yno. Sylfaenwyd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych gan Mark yn 12 mlwydd oed. Gyda chefnogaeth arian Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, cafodd y castell a’r stad ei brynu gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych yn 2018 dan arweiniad Mark, ar ran y genedl. Roedd Mark wedi arwain tîm o 100 o staff a gwirfoddolwyr wrth adfer ac agor y safle i’r cyhoedd, gan groesawu mwy na 100,000 o ymwelwyr y llynedd.

Yn ystod yr haf, bydd panel sy’n cynnwys cynrychiolwyr y Loteri Genedlaethol a phartneriaid o bob cwr o’r DU yn dod i benderfyniad ar yr enillwyr ym mhob un o’r categorïau unigol. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn yr Hydref ac yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu sefydliad a thlws tra dymunol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. 

Dywedodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn anrhydeddu’r sawl sydd wedi camu i fyny a mynd y filltir ychwanegol i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, yn enwedig yn ystod yr amseroedd heriol hyn. 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a’r £30 miliwn a godir pob wythnos ar gyfer achosion da, mae miloedd o unigolion led led y DU wedi bod yn gwneud gwahaniaeth anhygoel yn eu hardaloedd, a dyma yw ein cyfle i amlygu a dathlu gwaith eithriadol yr arwyr lleol annhunanol hyn.” 

Mae adran unigolyn neilltuol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni yn anrhydeddu arwyr anhysbys yn y categorïau canlynol: 
 
•    Diwylliant, Celfyddydau & Ffilm 
•    Treftadaeth 
•    Chwaraeon 
•    Cymunedau/Elusennau 
•    Yr Amgylchedd 
•    Gwobr Arwr/Arwres Ifanc (i rywun dan 25 mlwydd oed) 
•    Cyflawniad Arbennig 


Yn ychwanegol at y categori unigolyn neilltuol, cynhelir pleidlais gyhoeddus ar-lein eleni i ganfod Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn i’r DU. Bydd yr enwebai’n cael eu cwtogi i 15 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol, gyda phleidlais gyhoeddus i’r DU gyfan ym mis Medi i benderfynu’r enillydd.