Mae hyn oherwydd yr angen am lofnodion corfforol ar y ddogfennau.

Rydym hefyd yn cau ein swyddfeydd o ddydd Llun 23 Mawrth 2020 felly ni fyddwn yn gallu agor unrhyw bost. Rydym hefyd yn ansicr pa mor hir y bydd y Post Brenhinol yn dosbarthu.

Hefyd wrth gwrs, mae llawer o orielau ar gau am y tro.

Felly, am y rhesymau hyn rydym wedi penderfynu na allwn brosesu ceisiadau ar hyn o bryd. Bydd unrhyw geisiadau sydd wedi eu derbyn eisoes yn cael eu prosesu yr wythnos hon, os oes unrhyw faterion bydd ein tîm cyllid yn cysylltu â'r oriel yn uniongyrchol.

Rydym yn rhannu eich rhwystredigaeth ynglyn â'r mater hwn, ond mae'n fater na allwn ni ei reoli ar hyn o bryd.

Gellir darllen mwy am sut yr ydym yn delio â'r argyfwng COVID-19 drwy ddilyn y ddolen hon.