Mae Paris, prifddinas hudolus Ffrainc, yn ddinas sy’n llawn diwylliant a harddwch artistig. Mae’n enwog fel ‘Dinas y Goleuadau’ (‘City of Lights’) ac mae wedi dod yn ganolfan ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd. Mae’n llawn o adeiladau eiconig fel Tŵr Eiffel, Amgueddfa’r Louvre, ac Eglwys Gadeiriol Notre-Dame, sy’n adlewyrchu ei threftadaeth artistig. Mae Paris wedi ysbrydoli llu o awduron, arlunwyr, cerddorion ac artistiaid. Bydd hefyd yn gartref i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2024.  

Dirprwyaeth dan arweiniad Articulture i FRESH Paris (Circostrada) 

Penblwydd arddangos Celfyddydau Stryd yn 10 oed, Paris Medi 20-22, 2023 

Mae Articulture yn cefnogi ac yn datblygu celfyddydau awyr agored ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru a'r DU, ac yn rhyngwladol.  Nhw yw unig aelodau Cymru o Circostrada – y rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer syrcas gyfoes a chelfyddydau awyr agored.  

Cynhelir FRESH 2023 ym Mharis ar 20-23 Medi 2023, i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu rhwydwaith Circostrada.  Bydd y cyfarfod proffesiynol blaenllaw hwn yn denu dros 300 o bobl greadigol o fyd syrcas gyfoes a chelfyddydau awyr agored ar gyfer cynhadledd, cyfnewid a rhwydweithio.  

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi cefnogi Articulture i arwain dirprwyaeth o Gymru i FRESH 2023.  

 

Pentref Rygbi Place de la Concorde 

Bydd Pentref Rygbi Place de la Concorde yn cynnwys perfformiadau gan Adwaith, Mac the Great a Qwerin gan Osian Meilir 

 

Dyddiadau:

19-21 Medi - Digwyddiad Celf Stryd a fydd yn cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau ledled Paris, gydag Osian Meilir fel siaradwr gwadd ar 20 Medi. Bydd dirprwyaeth a gwmnïau o Gymru yn mynychu, dan arweiniad Articulture.  

21 Medi - Qwerin yn cael ei berfformio ym Mhentref Rygbi Paris, place de la Concorde Paris  

22 Medi - Mace the Great yn perfformio ym Mhentref Rygbi Paris, place de la Concorde Paris 

5 Hydref – Adwaith yn perfformio ym Mhentref Rygbi Paris, place de la Concorde Paris 

 

Gallwch ddarganfod mwy am Raglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc 2023 yma: