Prif nod y cynllun yw hyrwyddo cynwysoldeb, a sicrhau cydraddoldeb o ran hygyrchedd mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol i ymwelwyr B/byddar, anabl a niwroamrywiol. Bydd y cynllun yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ac yn cynnwys rhestrau, llwybrau i archebu ar-lein a chynigion tocynnau i gymdeithion, safonau wedi'u cefnogi gan y diwydiant ar gyfer lleoliadau a hyfforddiant a datblygiad ar gyfer y sector. Bydd y fenter yn adeiladu ar gynlluniau sydd eisoes yn bodoli fel y cynllun Hynt hynod lwyddiannus yng Nghymru - menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n cael ei rheoli ar ei rhan gan Greu Cymru. Cynllun i bobl â chardiau yw Hynt sy'n addo cynnig cyson mewn lleoliadau sy'n aelodau yng Nghymru.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ynghyd â’r Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Ffilm Prydain wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ystyried sut y gellir creu cynllun tebyg ar draws Prydain, gan gynnwys comisiynu ymchwil ac astudiaethau dichonoldeb. Cafodd y gwaith hwn ei lywio gan farn pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol a'r sector creadigol a diwylliannol ehangach. Sefydlwyd grŵp ymgynghori sy'n cynnwys 14 o bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol o bob rhan o Brydain sy'n cael ei gadeirio'n annibynnol gan Sam Tatlow MBE, Partner Amrywiaeth Creadigol ITV.

Bydd Hyrwyddwr Hygyrchedd Celfyddydau Prydain yn chwarae rhan allweddol, gan ddefnyddio gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad personol i weithredu fel eiriolwr gyda rhanddeiliaid allanol, ac yn gyfaill beirniadol i'r bartneriaeth wrth i ni ymchwilio i ddatblygu a chyflawni'r cynllun, ac rydym wrth ein bodd bod Andrew Miller wedi ymuno â ni ar y daith.

Dywedodd Andrew Miller:

"Rwyf yn falch y tu hwnt fy mod wedi cael gwahoddiad i gynorthwyo Cyngor Celfyddydau Cymru a'i bartneriaid ym Mhrydain i gyflawni'r prosiect pwysig a chyffrous hwn. Mae'r cynllun Hygyrchedd i'r celfyddydau yn cynnig cyfle trawsnewidiol i wella Hygyrchedd ac ansawdd profiad cynulleidfaoedd anabl yn ogystal â chael gwared ar y rhwystrau sydd yno eisoes i ymgysylltu â diwylliant. Dwi’n methu aros i gychwyn ar y gwaith."

 

 

Pwy yw Andrew Miller?

Mae Andrew Miller MBE yn ymgynghorydd a sylwebydd diwylliannol, sy'n cael ei gydnabod fel un o'r eiriolwyr anabledd mwyaf dylanwadol Prydain. Mae ei yrfa ddisglair wedi cynnwys cyfnodau fel darlledwr, gwneuthurwr rhaglenni teledu, cyllidwr celfyddydol, cyfarwyddwr lleoliad ac ymgyrchydd anabledd. Yn 2020, cydsefydlodd Gynghrair Celfyddydau Anabledd Prydain, yr hashnod Ni Chawn Ein Dileu i gefnogi artistiaid anabl drwy'r pandemig a chyd-ysgrifennodd y Saith Egwyddor Gynhwysol a helpodd i lunio'r adferiad diwylliannol. Mae ei bortffolio presennol o swyddi’n cynnwys: Cyfarwyddwr Creadigol Coleg y Drindod, Rhydychen; Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Sgrin Anabledd y BFI; ymgynghorydd i Rwydwaith Anabledd Strategol yr Amgueddfeydd; ymddiriedolwr yr RSC a BAFTA. Andrew oedd Hyrwyddwr Anabledd cyntaf Llywodraeth Prydain ar gyfer y Celfyddydau a Diwylliant ac mae ei gyfraniad arloesol at y celfyddydau a darlledu wedi cael ei gydnabod gan y Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol, 100 The Stage, Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2021, Gwobrau The Stage ac mae wedi'i restru ar hyn o bryd yn neg uchaf y Can Person Mwyaf Dylanwadol gan Ymddiriedolaeth Shaw.