Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai Yr Athro Jerry Hunter fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni o fis Gorffennaf 2023 ymlaen.   

Yn wreiddiol o Unol Daleithiau America ond bellach yn byw yn Nyffryn Nantlle, mae gan Jerry brofiad helaeth yn y byd academaidd a hefyd fel awdur profiadol. Mae Jerry yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor. Fel awdur, mae wedi cyhoeddi 12 o lyfrau, ac wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn a Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae wedi sgriptio a chyflwyno tair cyfres ddogfen ar gyfer S4C ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith, ar y cyd â Richard Wyn Jones. Yn flaenorol, roedd yn Ddirpwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Celfyddydau Pontio a bu hefyd yn aelod o Fwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd yn aelod o Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Bydd Jerry yn cymryd yr awenau gan Elwyn Jones, sydd wedi bod yn gweithredu fel Cadeirydd Dros Dro ers i’r cyn-Gadeirydd Efa Gruffudd Jones gamu lawr er mwyn dechrau ei swydd newydd fel Comisiynydd y Gymraeg. Hoffai’r cwmni ddiolch o galon i Efa ac Elwyn am eu harweiniad a’u gwasanaeth dros y cyfnod diwethaf.

Yn ymuno â Jerry fel aelodau newydd o Fwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni, mae Elin Parisa Fouladi a Dafydd Gwyn Jones.

Cantores, actores a chyflwynydd o Gaerdydd yw Elin. Graddiodd gyda BA mewn Drama o Brifysgol Queen Mary, Llundain yn 2008 cyn mynd ymlaen i weithio fel is-gynhyrchydd a chynhyrchydd i’r BBC yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae hi’n canolbwyntio ar ei gyrfa mewn cerddoriaeth ac yn perfformio ar draws Cymru mewn digwyddiadau fel Tafwyl, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Gŵyl Sŵn. Yn ogystal â hyn, mae Elin yn perfformio ar raglenni teledu ac wedi cyflwyno rhaglen ddogfen ar S4C am Iran yn ddiweddar. Yn gynharach eleni, trefnodd Elin gyngerdd arbennig yn y Deml Heddwch er mwyn codi ymwybyddiaeth am y sefyllfa hawliau dynol yn Iran. Yn rhan o’r digwyddiad, bu Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gydweithio gydag Elin i berfformio darn o waith gan y cyfarwyddwr theatr Sepy Baghaei.

Mae Dafydd yn Rheolwr Cyllid gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn byw yng nghyffiniau Nantgaredig. Ar ôl ennill gradd BSc mewn Gwyddor Cyfrifiadur o Brifysgol Aberystwyth, fe dreuliodd flynyddoedd cynnar ei yrfa yn datblygu meddalwedd. Fe gwblhaodd MBA ym Mharis ym 1995, cyn dychwelyd i Gymru i fod yn Ymgynghorydd Rheolaeth gyda PwC a Deloitte. Ers hynny, mae wedi treulio rhan fwyaf o’i amser yn y sector Addysg Uwch, fel Uwch Ddarlithydd, Cyfarwyddwr Mentergarwch a Chyfarwyddwr Cyllid. Fe gymhwysodd fel cyfrifydd yn 2007 (FCCA). Mae ei ddiddordeb ym myd theatr yn ymestyn nôl i 1985, pan gafodd y cyfle i fod yn rhan o dîm technegol cynhyrchiad Rhyfel a Heddwch Theatr Ieuenctid yr Urdd. Roedd Dafydd hefyd yn Bennaeth Cyllid yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dywedodd Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol y cwmni:
“Mae’n bleser mawr i mi groesawu Jerry, Elin a Dafydd i Fwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Gen. Mae’r tri ohonynt yn dod â phrofiadau a sgiliau amrywiol – o’r meysydd creadigol i fyd cyllid – sy’n cyfrannu at lywodraethiant llwyddiannus y cwmni. Hoffwn hefyd, yn bersonol ac ar ran y cwmni, diolch o galon i Efa ac Elwyn am eu cyfraniad a’u hymroddiad fel Cadeirydd a Chadeirydd Dros Dro yn ystod y cyfnod diwethaf.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Steffan Donnelly:
“Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Jerry, Elin a Dafydd dros y cyfnod nesaf, wrth inni weithio tuag at wireddu ein rhaglen newydd ac uchelgeisiol o waith theatr. Ein gweledigaeth yw creu theatr Gymraeg sy’n cysylltu Cymreictod a’r byd a bydd y tri ohonynt – ochr yn ochr â’n Hymddiriedolwyr gwych eraill – yn sicr o’n cefnogi i gyrraedd y nod hwn.”

Dywedodd y Cadeirydd newydd, Jerry Hunter:
“Ers blynyddoedd, dwi wedi dilyn gwaith gwych Theatr Genedlaethol Cymru ac mae’n fraint i mi bellach ymuno gyda’r sefydliad hollbwysig hwn fel Cadeirydd. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio â'r holl bobl ymroddedig a thalentog sy'n rhan o’r cwmni yn ystod y cyfnod cyffrous hwn.”

Mae Jerry, Elin a Dafydd yn ymuno â’r cwmni yn ystod cyfnod cyffrous iawn. Mae’r cwmni newydd lansio ei raglen hyd at gwanwyn 2024, sef y rhaglen gyntaf o dan arweiniad artistig Steffan Donnelly. Mae’r rhaglen uchelgeisiol hon yn cynnwys 8 cynhyrchiad, 3 ohonynt yn deithiau cenedlaethol. Bydd cynyrchiadau lu yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o’r ddrama Rhinoseros gan Eugène Ionesco, sioe newydd i blant ifanc gyda Krystal S. Lowe Swyn, a darn sydd wedi’i greu gan bobl ifanc i bobl ifanc gyda’r cynhyrchiad Ie Ie Ie dan arweiniad Juliette Manon. Ochr yn ochr â’r cynyrchiadau, mae’r cwmni hefyd yn cyflwyno nifer o brosiectau hirdymor sy’n cynnwys Prosiect 40°C sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac Ar y Dibyn sy’n cynnig cyfleoedd creadigol i rai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth.