Mae Linc Cymru yn Gymdeithas Tai a darparwr Gofal sy’n gweithio ar draws De-ddwyrain Cymru, gan gynnig cartrefi i deuluoedd, Gofal Ychwanegol a Chartrefi Nyrsio. Mae Linc yn credu mewn creu’r amgylchedd cywir i bobl ffynnu ac mae’n falch o’r cartrefi y mae’n eu hadeiladu a’r amgylcheddau naturiol sy’n eu cefnogi i wella ansawdd bywyd.

Mae Linc wedi prynu hen glwb nos Zanzibar yn Stow Hill Casnewydd yn ddiweddar. Wedi'i adeiladu gyntaf fel capel yn 1880, mae gan y lleoliad statws eiconig fel lleoliad lletygarwch ac yn fwyaf diweddar fel clwb nos poblogaidd a oedd yn cynnwys llawer o berfformiadau proffil uchel. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Ebrill 2022 i adeiladu 37 o fflatiau ar y safle, sydd â ffasâd rhestredig gradd II.

Mae Linc wedi ymrwymo i nodi arwyddocâd hanes y safle ac yn dymuno comisiynu gweithgaredd celfyddydol i ddathlu hyn. Mae Linc yn agored i bob ffurf ar gelfyddyd, fodd bynnag, dylid cynnwys etifeddiaeth weledol y prosiect ym mhob cynnig.

Os hoffech wneud cais, llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i contactus@aandbcymru.org.uk 

Dyddiad cau: 09/07/2024