Mae Gwobrau blynyddol Y Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a’r prosiectau ledled y Deyrnas Unedig sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian Y Loteri Genedlaethol.

Ers i bleidleisio ar gyfer categori Prosiect y Flwyddyn Y Loteri Genedlaethol agor ar 7 Medi, mae miloedd o bleidleisiau wedi’u bwrw o bob rhan o’r DU ar gyfer yr 17 yn y rownd derfynol i helpu i benderfynu enillydd eleni.

Ond gyda’r dyddiad cau ar gyfer pleidleisio ar 12 Hydref yn prysur agosáu, mae’r pedwarawd o brosiectau Cymreig yn apelio am eich cefnogaeth i’w helpu i ddod dros y linell.

Mae Arddangosfa Falcon Doc Penfro, sy’n cael ei churadu gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro ac a agorwyd gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai eleni, yn adrodd hanes unigryw sut y cafodd seiri llongau yn nhref fechan Doc Penfro yng ngorllewin Cymru eu comisiynu i adeiladu llong ofod eiconig y Millenium Falcon yn ffilmiau Star Wars yn ystod yr 1970au. Mae’r arddangosfa barhaol yn adrodd y stori am sut y cafodd y prop ffilm eiconig 23 tunnell ei adeiladu mewn awyrendy dros dri mis. 

Cafodd yr elusen Iechyd Meddwl, Sefydliad Jac Lewis, ei sefydlu er cof am bêl-droediwr ifanc ac aelod poblogaidd o gymuned Rhydaman a gyflawnodd hunanladdiad trasig yn 27 mlwydd oed yn 2019 wedi pum mlynedd o straffaglu gyda’i iechyd meddwl. Nod yr elusen a sefydlwyd er anrhydedd iddo yw helpu pobl i gael mynediad cyflym at gefnogaeth iechyd meddwl, ynghyd â gwasanaeth cynghori i deuluoedd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r elusen wedi gallu sefydlu gwasanaeth cefnogaeth mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad, sydd wedi helpu dros 1600 o oedolion a phlant ers ei agor ym mis Rhagfyr 2020. 

Wedi’i ddisgrifio fel ‘noddfa i’r enaid’, mae prif elusen dementia Cymru, Forget-me-not Chorus, yn cyflwyno’r llawenydd a ddaw trwy ganu i bobl sy’n byw â dementia a’r sawl sy’n eu cefnogi. Ers 2011, mae’r elusen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, ac a ddechreuwyd yng Nghaerdydd, wedi cynnal sesiynau canu wythnosol i bobl â dementia ac wedi ehangu argaeledd ei wasanaethau ers hynny i Gymru gyfan a gweddill y DU. Trwy bump o gorau cymunedol, ugain o gorau ‘Canu Cryf – Singing Strong’ mewn cartrefi gofal, llyfrgell o sesiynau canu am ddim sydd wedi’u recordio o flaen llaw a gwasanaeth ysbyty – mae’r tîm o gerddorion proffesiynol arbennig o fedrus yn cyrraedd dros 1000 o bobl yr wythnos.   

Cyd-sefydlwyd Y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) gan ferch o Gymru sef Seren Jones, i annog mwy o bobl mewn cymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd i gymryd rhan mewn nofio ac addysg am ddiogelwch dŵr. Gan weithio’n agos gyda phartneriaid dyfrol, diogelwch dŵr ac addysg strategol ar draws y DU, mae’r BSA wedi creu partneriaeth gref erbyn hyn gyda Chwaraeon Cymru i wneud nofio a chwaraeon dyfrol eraill yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd. Dyma’r tro cyntaf mae prosiect wedi canolbwyntio ar y mater hwn yng Nghymru. 

Ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, bydd y sawl a gyrhaeddodd y rownd derfynol gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei goroni’n Brosiect y Flwyddyn 2022 y Loteri Genedlaethol.

Bydd y prosiect buddugol yn derbyn gwobr ariannol o £5,000, ynghyd â thlws eiconig y Loteri Genedlaethol i goffau’r gamp.

Wrth annog pobl i bleidleisio, dywedodd Jonathan Tuchner o’r Loteri Genedlaethol: “Rydym mor gyffrous i gael rhestr mor anhygoel o gystadleuwyr ar gyfer categori Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni. Mae bob amser yn gategori hynod gystadleuol ac nid yw eleni yn ddim gwahanol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn mynd at achosion da ledled y DU bob wythnos, gan wneud prosiectau hanfodol fel y rhain yn bosibl. Felly peidiwch ag anghofio sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed drwy bleidleisio dros eich Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol – gyda’ch cymorth chi, gallai unrhyw un o’r prosiectau hyn fod yn enillydd.”

I bleidleisio ar gyfer unrhyw un o’r prosiectau hyn, edrychwch ar https://www.lotterygoodcauses.org.uk/cy/awards .  Neu yn syml iawn, ewch ati i ddefnyddio’r hashnod Trydar #NLABlackSwimmingAssociation , #NLAForgetMeNot , #NLAJacLewis a #NLApembrokedockfalcon.  Mae'r pleidleisio yn cau am 5pm ar Hydref 12fed.

*Gohiriwyd y bleidlais gyhoeddus yn ystod y cyfnod o alaru dros ei Mawrhydi y Frenhines ac fe'i hailagorwyd ddydd Mawrth 20 Medi.