Cwmni theatr actor-gerddor The Bohemians yn dychwelyd i’w tref genedigol yn Llanelli – Yn lansio taith Gymreig newydd – Yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr i fod yn uchelgeisiol â chynyrchiadau teuluol gweledol a cherddorol ffrwydradol sydd ddim yn gwingo rhag y pynciau mawrion

The Misadventures of Pinocchio: The Radical Robot Girl!

28ain Mai – 8fed Mehefin 2024

Llanelli - Aberystwyth – Aberhonddu – Abertawe - Caerdydd

Mae The Bohemians yn gwmni theatr actor-gerddor a ffurfiwyd gan raddedigion o Rose Bruford yn 2018 yn cynnwys eu Cyfarwyddwr Artistig, Benji Mowbray sy’n hanu o Llanelli. Ar ôl perfformio ar hyd a lled y wlad o Gernyw i Lerpwl ac ar draws eu hen gartref yn Llundain, maent wrth eu boddau i fedru dod â’u sioeau gwleidyddol gyda cherddoriaeth fyw wrth wraidd y chwedleua i Gymru yn nawr.

Mae The Misadventures of Pinocchio: The Radical Robot Girl! yn stori dylwyth teg roc-werin ar gyfer cenhedlaeth Greta Thunberg wedi’i gosod mewn Cymru ôl-apocalyptaidd. Bydd cynulleidfaoedd yn dal i weld trwynau sy’n tyfu, meistri pypedau ynghyd â’r holl hud syfrdanol, ond cânt eu rhybuddio i beidio â disgwyl y diweddglo hapus arferol! Wedi’i hysgrifennu gan Joel Nash, mae’n addasiad anarchaidd o ‘The Adventures of Pinocchio’ gan Carlo Collodi. Fe ddechreuodd y darn fel prosiect ysgrifennu yn ystod y cyfnod clo rhwng dau aelod sefydlol The Bohemians, Benji Mowbray a Joel Nash.

Esbonia Benji y Cyfarwyddwr “Nid unrhyw fersiwn o Pinocchio yw hon. Rydyn ni wedi ailddychmygu’r stori wreiddiol yn llwyr er mwyn dweud rhywbeth am y byd yr ydyn ni’n byw ynddi heddiw – Rydyn ni’n archwilio sut y gall newid yn yr hinsawdd effeithio ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n wledd actor-gerddor 80 munud o hyd sy’n archwilio’r heriau o ddilyn eich breuddwydion a sut i gael pen ffordd yn y byd cyfnewidiol hwn yr ydyn ni’n byw ynddo. Rydyn ni hefyd wedi ysgrifennu sgôr cwbl wreiddiol gyda chaneuon pync-roc, eiliadau o theatr gerdd pur a rhai melodïau gwerinol hwyliog.”

Ychwanegodd Joel “Rydyn ni’n gwbl angerddol dros ailddychmygu straeon tylwyth teg mewn ffyrdd cwbl newydd ac sy’n dweud rhywbeth am y byd yr ydyn ni’n byw ynddi yn nawr. Mae’r mwyafrif o bobl yn cysylltu Pinocchio â’r animeiddiad Disney enwog, ond mae llyfr gwreiddiol Carlo Collodi yn chwedl lot tywyllach. Mae Benji a finnau wedi treulio lot o amser yn gweithio allan sut a pham y dylen ni ailddychmygu’r chwedl rhyfedd o dywyll hon a dwi’n credu ein bod ni wedi creu rhywbeth yr un mor anarferol â’r llyfr gwreiddiol.”

Yn wreiddiol wedi’i eni’n Abertawe, magwyd Benji yn Llanelli De Cymru lle y mae wrth ei fodd y bydd The Bohemians yn nawr wedi’i seilio diolch i gefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr ble y mae eu cydweithrediad wedi galluogi’r cynhwysiant o gynllun talu’r hyn y medrwch chi ei fforddio yn Llanelli er mwyn gwneud tocynnau’n hygyrch i bob teulu.

“Yma yn Theatrau Sir Gâr, mae gennym ni ymrwymiad cryf tuag at feithrin talent lleol a maethu twf unigolion creadigol sy’n ymddangos. Mae gan The Bohemians Theatre Co wreiddiau yn Llanelli, rydyn ni’n falch i gefnogi eu huchelgais i ddychwelyd i’r dref ac i sefydlu eu hunain o fewn ein cymuned artistig, fydd yn ei dro yn cyfoethogi tirwedd diwylliannol Sir Gâr.”

Dywedodd Benji “Fe syrthiais i mewn cariad hefo theatr o oedran ifanc wrth lwyfannu sioeau yn yr ardd gefn gyda fy chwaer. Ro’n i’n aelod balch o Theatr Ieuenctid Llanelli lle yr hogais fy nghrefft cyn mynd i Goleg Rose Bruford yn Llundain i astudio Actor-Gerddoriaeth. Mae dod â The Bohemians yn nôl i Gymru yn foment cylch cyflawn i mi’n bersonol. Rwy’n gobeithio y bydd hwn yn fan cychwyn ar gyfer ein gwaith yng Nghymru ac y gallwn ni ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr ac actor-gerddorion i fod yn uchelgeisiol.

Mae The Misadventures of Pinocchio: The Radical Robot Girl! yn sioe sy’n llachar ac yn eofn ar gyfer y rheiny sy’n 7+ mlwydd oed a chynulleidfaoedd teulu ond sydd hefyd yn delio gyda dilyn eich breuddwydion a chael pen ffordd mewn byd toredig fel plentyn yn eu harddegau.

Cast i’w gyhoeddi’n fuan.

Trelar fideo  https://www.youtube.com/watch?v=dCYr_oImlkk

Cyfryngau Cymdeithasol @thebohemiansco