Ar 30 Mawrth 2023, caiff digwyddiad ei gynnal i ddathlu blwyddyn gyntaf y Rhaglen Natur Greadigol. Mae'r rhaglen yn gytundeb rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a'r amgylchedd naturiol, fel rhan o’n hymrwymiad cyffredinol i wella llesiant amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Nod y Rhaglen Natur Greadigol yw dod â chymunedau ledled Cymru ynghyd, er mwyn eu helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy drwy annog ein pobl i werthfawrogi natur a lleoedd yn yr awyr agored yng Nghymru drwy weithgarwch creadigol.

Bydd y digwyddiad undydd, a gaiff ei gynnal yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, yn gyfle i drafod datblygiad y Cynllun ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a'r Celfyddydau, ac i ddathlu gwaith Cymrodoriaeth Cymru y Dyfodol. Mae'r Gymrodoriaeth yn cynnwys wyth artist sy'n defnyddio eu hymarfer i edrych ar yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar fywyd pob dydd ac i herio'r ffordd y mae pobl yn meddwl am newid hinsawdd.

Bydd cyfle i ddilyn y digwyddiad ar-lein drwy ffrwd fyw drwy gofrestru yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/ffrwd-fyw-rhaglen-natur-greadigol-live-stream-creative-nature-programme-tickets-557806723927?aff=erelpanelorg

Mae yna hefyd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin i fynychu'r digwyddiad wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen. Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/dathlur-rhaglen-natur-greadigol-celebrating-the-creative-nature-programme-tickets-531808422307

Dywedodd Joe Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru:

"Wrth ddod i ddiwedd blwyddyn gyntaf y Rhaglen Natur Greadigol, rydym wir yn dechrau gweld y posibiliadau sy'n ymddangos pan fydd artistiaid yn ymgysylltu â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen i'r newid i ddyfodol cynaliadwy fod yn gyfiawn, a bydd yr her, yr empathi a'r arloesedd a ddangoswyd gan y gwaith hyd yma yn gosod sylfaen ar gyfer rhagor o gydweithio rhwng ein sectorau."

Dywedodd Judith Musker Turner, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae gan y celfyddydau ran allweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Gellir defnyddio celfyddyd i ymateb yn greadigol ac yn ddeallusol i faterion amgylcheddol, i agor a sbarduno trafodaethau, a gellir ei ddefnyddio fel ffordd o weithredu. Mae hyn i’w weld yng ngwaith Cymrodyr Cymru y Dyfodol a fydd yn rhannu eu taith dros y flwyddyn ddiwethaf a’r gwaith roeddynt wedi’i ddatblygu."