Mae'r Dathliad Chwilfrydedd Creadigol yn amlygu casgliad o’r gwaith a wnaed fel rhan o'r gweithdai Chwilfrydedd Creadigol diweddar. Roedd y prosiect arloesol hwn gan gelfyddydau SPAN a’u partneriaid, Gofal Preseli  a PAVS (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro), yn arfer grym creadigrwydd trwy weithdai dan arweiniad artistiaid i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a brofir gan gymunedau gwledig a Chymraeg Gogledd Sir Benfro gan gynnwys Gofalwyr, Pobl Ifanc a'r rhai dros 50 oed. Gan ddefnyddio'r celfyddydau fel cyfrwng i gefnogi chwilfrydedd cymunedol creadigol, roedd y gweithdai hyn yn cynnig llwyfan hygyrch i rannu yn yr hyn sydd ar goll yn eu bywydau a pha newidiadau sydd angen eu gwneud.

Bydd yr arddangosfa hon yn arddangos y gwaith Tecstilau a Gwaith Celf Ddigidol a Gweledol hardd a ddatblygwyd drwy'r gweithdai hyn ac yn dathlu adrodd creadigol y cymunedau sydd wedi'u cynnwys yn y gwaith.

Roedd ein sesiynau Celfyddydau Gweledol i Ofalwyr dan arweiniad yr artistiaid Di Ford a Fran Evans yn defnyddio collage fel symbyliad ar gyfer sgwrsio. Creodd y grŵp gyfres o ddarnau celf hardd ar y cyd a oedd yn ymdrin â phynciau yn amrywio o drafnidiaeth i fynediad, gofal iechyd ac unigrwydd i greu collage trawiadol gorfaint. Mae'r darn yn rhyngweithiol a dros 2 fetr o led. Nid yn unig y mae'r gwaith celf yn wledd weledol i'r llygaid, ond mae hefyd yn cyfleu llawer o negeseuon pwerus yr oedd y grŵp yn teimlo y bod angen mynd i’r afael â nhw.

Estynnodd yr artistiaid Nia Lewis ac Imogen Mills wahoddiad i gyfranogwyr  ddod  draw â'u prosiectau trwsio neu, yn syml, i archwilio posibiliadau addurnol technegau trwsio traddodiadol a chyfoes. Roedd y cyfranogwyr wedi ymgolli yn y prosesau rhythmig a oedd yn feddylgar yn aml, tra bod yr awyrgylch hynaws gefnogol yn meithrin trafodaeth o  gartref, gofal, cymuned a llesiant. Cipiwyd meddyliau, dyfyniadau a straeon yn ymwneud â'r themâu hyn mewn pwyth ar bâr o lieiniau bwrdd brodwaith. Roedd y gweithdai yn darparu lle i oedi, i fod yn greadigol ac weithiau'n ymarferol wrth ystyried themâu sy'n effeithio ar bresennol a dyfodol gofal a chymorth yng nghymunedau gwledig Gogledd Sir Benfro.

 

Arweiniodd yr artistiaid Gemma Green-Hope a Hannah Rounding cyfres o weithdai celf ddigidol i bobl ifanc. Trwy gyfres o weithgareddau gan ddefnyddio apiau ar gyfer ffonau clyfar a thabledi, buon nhw’n archwilio themâu fel hunaniaeth, cartref, cymuned a gofal. Roedd y gweithdai a gynhaliwyd dros dro mewn gwahanol leoliadau yn creu cyfleoedd ar gyfer sgwrsio bywiog a chwarae creadigol. Mae'r apiau a ddefnyddir i gyd yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch, gan alluogi'r bobl ifanc i barhau i greu yn y dyfodol. Mae'r gweithiau celf animeiddiedig a grëwyd yn y gweithdai wedi cael eu golygu i greu ffilm fer i'w rhannu gyda'r gymuned.

 

Estynnir croeso cynnes i chi ymuno â'r  Dathliad Chwilfrydedd Creadigol yng Nghanolfan Gymunedol Hermon. Galwch heibio i archwilio'r arddangosfa sy'n dathlu'r gweithdai Celf Tecstilau a Chelf Weledol, gwylio'r celf ddigidol o weithdy’r Bobl Ifanc a mwynhau lluniaeth ysgafn am ddim, sgwrsio am y prosiect ac ymuno yn y trafodaethau adborth.

 

Am ragor o wybodaeth am y prosiect ewch i span-arts.org.uk, neu ffoniwch 01834 869323. Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn. E-bostiwch info@span-arts.org.uk gydag unrhyw gwestiynau ynghylch mynediad.

 

 

Manylion y digwyddiad:

Dyddiad: Dydd Gwener 17 May 2024

Amser: Galw heibio rhwng 2:30yp a 5:30yp.

Pris: Am ddim

Lleoliad: Canolfan Hermon, Hermon, Glogue. SA360DT