Bwriad Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Ffilm Prydain yw creu cynllun hygyrchedd i gynulleidfaoedd Byddar, anabl a niwroamrywiol. Bydd y cynllun yn cynnwys y theatr, orielau a ffilm.

Nid oes ffurf bendant ar y cynllun am ein bod o hyd yn archwilio syniadau. Ond sail y cynllun fydd gwahanol ddarnau o ymchwil a’r gwersi a ddysgwyd gan y cerdyn Hynt yng Nghymru.


I ddatblygu'r fenter, ceisiwn Hyrwyddwr sy’n angerddol am hygyrchedd a chynhwysiant ac sydd â phrofiad o'r sector celfyddydol a diwylliannol a phrofiad personol o’r rhwystrau i fynd i ddigwyddiadau â thocynnau.

Ond yn bennaf eich profiad personol yw’r cymhwyster pwysicaf ichi allu eiriol, bod yn gyfaill beirniadol ac ymgysylltu ag eraill ar bob lefel.

Byddwch yn unigolyn eithriadol sy’n angerddol am gydraddoldeb, hawliau dynol a gwneud y celfyddydau’n decach a mwy amrywiol a chynrychioliadol.

Rhaid wrth sgiliau eiriol i hyrwyddo’r cynllun yn eang. Dylech adnabod rhanddeiliaid pwysig a bod â chysylltiadau â rhwydweithiau priodol.
 

Deallwch gelfyddydau a diwylliant Prydain a’r cenhedloedd ynddi a gallwch ddangos gwybodaeth am eu gwahanol gyd-destunau. Byddwch yn huawdl ac yn abl i berswadio pobl eraill. Gallwch ddatrys problemau mewn ffyrdd newydd a dychmygus.

Cytundeb blwyddyn a gynigiwn gyda'r posibilrwydd o'i estyn.

Gallwch weithio o unrhyw le ym Mhrydain. Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn eich rheoli ar ran y bartneriaeth. Rhagwelwn i’r gwaith ddigwydd fel contract am wasanaethau ar eich liwt eich hun ond byddwn yn hyblyg am hynny.

Danfonwch eich Datganiad o Ddiddordeb erbyn 5pm, dydd Gwener 21 Hydref 2022.