Mae'r internationale tanzmesse nrw, arddangosfa dawns gyfoes fwyaf y byd yn ôl ac fe’i cynhelir yn Düsseldorf, yr Almaen rhwng dydd Mercher 31 Awst a dydd Sadwrn 3 Medi 2022.

Mae gan yr arddangosfa Gyd-Gyfarwyddwyr newydd, sef Katharina Kucher ac Isa Köhler, ac maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â phedwar Curadur Cyswllt newydd Julia Asperska, Dan Daw, Quito Tembe a Natacha Melo.

Mae'r Tanzmesse nesaf yn canolbwyntio'n bennaf ar rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth. Tair adran sy'n gosod ffrâm international tanzmesse nrw: Agora (Ardal arddangos), Talk & Connect, a'r Rhaglen Berfformio i hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a thrafodaethau ymhlith arbenigwyr dawns. Am fwy o wybodaeth, ewch i NEXT TANZMESSE 2022.

Mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnal y Stondin Dawns o Gymru yn internationale tanzmesse nrw 2022. Byddwn hefyd yn cydlynu presenoldeb o'r DU ochr yn ochr â’n partneriaid The Work Room, yr Alban a Dance 4, Lloegr, sy'n cynrychioli stondinau arddangos Dawns o'r Alban a Dawns o Loegr yn yr Agora.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnig pedwar bwrsariaeth i artistiaid dawns unigol a chynhyrchwyr annibynnol wedi'u lleoli yng Nghymru i fynychu Tanzmesse 2022, dau ym mhob un o'r meysydd canlynol:

  • Ewch-i-WeldArtistiaid neu gynhyrchwyr sydd yng nghamau cynnar eu gyrfa, a all fod yn newydd i arddangosfeydd rhyngwladol, y byddai lle iddynt yn gyfle defnyddiol i ddatblygu eu gyrfa. Bydd hwn yn gyfle wedi'i gefnogi i gael blas ar yr arddangosfa ryngwladol a'r ffair fasnach i ymgysylltu â rhwydweithiau rhyngwladol sy'n bresennol yn Tanzmesse.
  • Barod i fynd ar DaithArtistiaid neu gynhyrchwyr y mae ganddynt waith eisoes wedi'i greu. Mae'n bosibl eich bod wedi bod ar daith neu wedi cydweithio'n rhyngwladol yn y gorffennol, ond bydd gennych waith sy'n barod ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol.


Mae ceisiadau nawr ar agor.

Dyddiad cau:
Dydd Gwener 20 Mai, 9am BST

Bydd y bwrsariaethau yn cynnwys:

  • Teithio araf ddwy ffordd (osgoi hedfan) o Gymru i Düsseldorf (31 Awst a 4 Medi)
  • Llety am bum noson yn Düsseldorf
  • Tocyn i gynrychiolwyr
  • Bwrsariaeth o £700 ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm â'r cynnig hwn (paratoi, dyddiau teithio, presenoldeb gweithredol yn Tanzmesse ac adroddiad a chyfarfod i werthuso)
  • Taliadau per diem o £25 y diwrnod am 6 diwrnod
  • Cyfraniad o hyd at £150 i ddatblygu neu addasu deunyddiau marchnata digidol
  • Yn ogystal, bydd y rheini a fydd yn cael eu dyfarnu â bwrsariaethau ‘Barod i fynd ar Daith’ hefyd yn cael eu cofrestru i stondin Dawns o Gymru

 

Bydd nifer o sesiynau briffio a pharatoi cyn yr ymweliad i bawb sydd wedi'u dyfarnu â bwrsariaeth. Byddwch hefyd yn cael cymorth a chyngor arbennig gan dîm Dawns o Gymru cyn ac yn ystod yr ymweliad.

Bydd amser i chi gymryd rhan yn y rhaglen seminarau, mynychu digwyddiadau rhwydweithio a mynd i sioeau yn y rhaglen artistig; wedi dweud hynny, bydd disgwyl i chi gyfrannu at staffio'r stondin yn ystod oriau penodol.

 

Pwy ddylai wneud cais?

Byddwch yn artist dawns unigol neu'n gynhyrchydd annibynnol wedi'ch lleoli yng Nghymru.

I fod yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn, rhaid i chi:

  • fod yn gweithio'n annibynnol (h.y. nid ydych yn derbyn cyllid rheolaidd)
  • bod yn artist dawns neu gynhyrchydd dawns  
  • bod wedi'ch lleoli yng Nghymru ac yn gwneud gwaith yng Nghymru 
  • bod yn ymrwymedig i gymryd rhan weithredol yn nigwyddiadau Dawns o Gymru a digwyddiadau wedi'u cydlynu gan y DU yn Tanzmesse  
  • bod ar gael i gymryd rhan yng nghyfnod llawn Tanzmesse (31 Awst i 3 Medi) a'r dyddiau teithio (30 Awst a 4 Medi)
  • cyfrannu at werthusiad ysgrifenedig a chymryd rhan mewn cyfarfod gwerthuso ar-lein dim mwy na 30 diwrnod ar ôl dychwelyd
  • Ar gyfer y rheini sy'n gwneud cais am y fwrsariaeth Ewch i Weld, byddwch yn barod i gyfrannu'n weithredol at y rhwydweithiau rhyngwladol a geir yn Tanzmesse
  • Ar gyfer y rheini sy'n gwneud cais am fwrsariaeth Barod i fynd ar Daith, byddwch yn barod i gynrychioli eich hunan (neu'r artist yr ydych chi'n gweithio gydag ef) mewn rhwydweithiau rhyngwladol a meddu ar ddeunyddiau marchnata yn barod i'w haddasu i'w defnyddio yn Tanzmesse

Noder y dylai unrhyw sefydliad neu gwmni sydd â diddordeb mewn mynychu gysylltu â Nicola Morgan (nicola.morgan@wai.org.uk), Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae'r cyfle hwn ar gyfer artistiaid annibynnol a chynhyrchwyr annibynnol yn unig.  

 

Y Cais

Bydd angen i ni asesu'r effaith a ragwelir o gymryd rhan yn yr ymweliad wedi'i gefnogi â Tanzmesse ar eich gyrfa ryngwladol ddatblygiadol. Gallwch wneud cais drwy anfon e-bost atom ni neu drwy ddull arall megis fideo neu glip sain, gan ymateb i'r cwestiynau isod a nodi'n glir am ba fwrsariaeth ydych chi'n gwneud cais:

Bwrsariaeth Ewch-i-Weld

  1. Pam mae gennych chi ddiddordeb mewn mynychu Tanzmesse?
  2. Pam fyddai'r cyfle rhyngwladol hwn yn werthfawr i chi ar hyn o bryd?  
  3. A ydych chi wedi cymryd rhan yn unrhyw arddangosfa ryngwladol, sioeau masnach neu ddigwyddiadau eraill?
  4. Sut allwch chi ymddwyn fel llysgennad dros ddawns gyfoes yng Nghymru?


Bwrsariaeth Barod i fynd ar Daith:

  1. Pam mae gennych chi ddiddordeb mewn mynychu Tanzmesse?
  2. Beth hoffech chi ei gael o'r ymweliad a pham fyddai'r cyfle rhyngwladol hwn yn werthfawr i chi ar hyn o bryd?  
  3. Os ydych yn gwneud cais fel artist, beth yw'r prosiectau neu'r darnau o waith fyddech chi'n eu cynrychioli yn Tanzmesse?
  4. Os ydych yn gwneud cais fel cynhyrchydd, pwy yw'r artistiaid neu'r prosiectau yr ydych chi'n gweithio gyda nhw ac y byddech yn eu cynrychioli yn Tanzmesse?
  5. Beth yw'r prosiectau neu rwydweithiau rhyngwladol yr ydych chi wedi bod ynghlwm â nhw hyd yn hyn ac a oes unrhyw ddiddordeb rhyngwladol yn eich gwaith ar hyn o bryd?
  6. A ydych chi wedi cymryd rhan, wyneb yn wyneb neu'n ddigidol, yn unrhyw arddangosfa ryngwladol, sioeau masnach neu ddigwyddiadau eraill?
  7. Sut fyddwch chi'n ymddwyn fel llysgennad dros ddawns gyfoes yng Nghymru yn ystod Tanzmesse?

 

Y Broses Ddethol

Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 20 Mai am 9am

Rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus erbyn diwedd yr wythnos ganlynol. Bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu, a'r penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud gan grŵp cynghori, yn cynnwys cynrychiolydd o Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, cynrychiolydd o Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, artist / cynhyrchwr, a chynhyrchydd annibynnol.

Rydym yn annog yn weithredol ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd amrywiol sy'n meddu ar wahanol sgiliau, persbectifau, a straeon. Rydym yn arbennig o awyddus i weld ceisiadau sy'n adlewyrchu ystod eang o brofiadau ar draws y nodweddion oedran, dosbarth, anabledd, rhywedd, hil a chyfeiriadedd rhywiol.

 

Sut ydw i'n gwneud cais?

Mae angen i'ch cais ymateb i'r cwestiynau uchod a chynnwys CV.

Anfonwch eich cais at kate@ndcwales.co.uk gan nodi'n glir pa fwrsariaeth ydych chi'n gwneud cais amdano.
Gallwch anfon eich cais yn ysgrifenedig neu drwy ddull arall megis fideo neu glip sain a'i anfon drwy WeTransfer. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch gysylltu â:
Kate Perridge: kate@ndcwales.co.uk
 Neu Nicola Morgan: nicola.morgan@wai.org.uk