Wedi’i datblygu’n wreiddiol o dan gyfres gomisiwn Volcano "Solo Duets for the Future", cafodd Ar Lan y Môr ei pherfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 hefyd. Bellach wedi’i hailddatblygu ar gyfer theatrau bach a mannau cymunedol, mae’r sioe yn ymddangos mewn lleoliadau ledled Cymru ac mae ar gael i gymunedau o dan gynllun Noson Allan.

Perfformiadau ym mis Mehefin:
Nos Iau 08 Theatr Volcano, SWANSEA
Nos Iau 15 Neuadd Rhoshirwaun ABERDARON (Mewn partneriaeth â Plas Carmel)
Nos Iau 22 Neuadd Glannau Ffraw ABERFFRAW (Mewn partneriaeth â Menter Môn)

Mam-gu Rhiannon yw un o’r preswylwyr olaf sy'n byw ar y stryd, ar lan y môr yn Sir Benfro. O’r 19 tŷ sydd yno, mae 15 ohonynt yn dai gwyliau.

Eistedda Mam-gu ger y ffenest yn y parlwr. Mae’r llanw yn troi. Mae’r bobl yn diflannu.

Beth yw dyfodol y stryd? Beth yw dyfodol ardaloedd glan mor gorllewin a gogledd Cymru? Beth yw effaith tai gwyliau ar iaith a diwylliant bro? Beth yw'r penderfyniadau anodd personol sydd ynghlwm a'r sefyllfa?

Mae Rhiannon Mair yn rhoi llais i rai o’r materion hyn mewn perfformiad iaith Gymraeg. Gyda help llawer o gerrig, cyfuna ddulliau adrodd stori aml-haenog drwy iaith a chorff.

Gwahoddir y gynulleidfa i aros am baned a sgwrs anffurfiol wedi’r perfformiad.

Addas i ddysgwyr Cymraeg lefel Canolradd neu uwch.

Mae Ar Lan y Môr yn cael ei greu a’i berfformio gan Rhiannon Mair, gyda Chymorth Creadigol gan Elis Pari a Sera Moore Williams.