Mae cyfarwyddwr artistig gŵyl gerddoriaeth ryngwladol yn rhoi’r gorau iddi ar ôl 20 mlynedd wrth y llyw.

Gwnaed y cyhoeddiad bod Ann Atkinson yn sefyll lawr  yng nghyngerdd lansio Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Roedd y cyngerdd yn codi’r llen ar ŵyl eleni sy’n cael ei chynnal rhwng Medi 15 - 30.

Cafodd yr ŵyl, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 50 y llynedd, ei sefydlu gan y cyfansoddwr brenhinol, yr Athro William Mathias.

Ann oedd y trydydd person i fod yn gyfarwyddwr artistig y digwyddiad, gan ddilyn yn ôl traed yr Athro Mathias a’i olynydd Geraint Lewis.

Meddai: “Rwyf wedi mwynhau’r her yn fawr iawn ac rydym wynebu sawl un o’r rheini ar hyd y ffordd.”

“Er enghraifft, fe wnaeth pandemig Covid-19 ein gorfodi i gynhyrchu gŵyl rithwir yn 2020 a chwtogi gŵyl 2021, ond roedd cael fy ngwahodd i fod yn Gyfarwyddwr Artistig yr holl flynyddoedd yn ôl yn gyfle arbennig.”

“Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i mi afael yn eiddgar yn y gwaith pan gafodd y swydd ei chynnig i mi ond erbyn hyn rwy’n teimlo fy mod wedi gwneud fy nghyfraniad ac mae’n bryd trosglwyddo’r awenau i rywun arall.”

“Mae’n rhyfedd paratoi ar gyfer yr ŵyl eleni a pheidio â meddwl ymlaen at y flwyddyn nesaf gan mai dyna sy’n digwydd fel arfer.”

“Mae’r rhaglen graidd o gyngherddau a datganiadau yn parhau fel y mae wedi gwneud erioed. Gweledigaeth William Mathias oedd dod â cherddorion o’r radd flaenaf i ogledd Cymru er mwyn i gynulleidfaoedd lleol eu mwynhau ar garreg eu drws yn lle gorfod teithio i Lerpwl, Manceinion a thu hwnt i’w clywed.”

“Ond mae’r rhaglenni cymunedol ac ieuenctid wedi datblygu’n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf ac mae hyn wedi bod mor gyffrous a rhoi cymaint o foddhad i mi. Rwy’n teimlo fy mod wedi bod mor ffodus i fod yn geidwad digwyddiad mor arbennig.”

Enillodd Ann, mezzo soprano enwog sy’n hanu o Gorwen, ei gradd B.Add o Brifysgol Cymru a dilynodd yrfa addysgu i ddechrau cyn ennill ysgoloriaeth i astudio canu yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Ers hynny mae hi wedi canu gyda llawer o gwmnïau opera mwyaf blaenllaw Prydain - Scottish Opera, Glyndebourne Festival Opera, Wexford Festival Opera ac Opera Cenedlaethol Cymru i enwi dim ond rhai, ac mae wedi perfformio ar draws y byd gan gynnwys cyngerdd cofiadwy yn Nhŷ Opera Sydney.

Yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Trelawnyd a Chôr Meibion Bro Glyndŵr.

Rhwng 2002 a 2009 roedd Ann hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion y Fron a ddaeth yn enwog ac adnabyddus fel “Band Bechgyn Hynaf y Byd” gan ryddhau sawl albwm a gyrhaeddodd frig y siartiau pop yn ogystal â’r siartiau clasurol.

Anrhydeddwyd Ann gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009 a blwyddyn yn ddiweddarach fe’i gwnaed yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Yn 2011 derbyniodd Wobr Teilyngdod Urdd Lifrai Cymru i gydnabod ei llwyddiannau eithriadol ym myd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Cafodd ei chydnabod unwaith eto am ei chyfraniad i Gerddoriaeth Cymru yn 2019 pan dderbyniodd Wobr nodedig Syr Geraint Evans gan Urdd Cerddoriaeth Cymru yng Nghaerdydd.

Yna y llynedd cafodd Ann ei gwneud yn Gydymaith Anrhydeddus yr Academi Gerdd Frenhinol i gydnabod ei chyfraniad i gerddoriaeth.

Talodd Cadeirydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, y Tra Pharchedig Nigel Williams, Deon y Gadeirlan, deyrnged i “gyfraniad aruthrol ac amhrisiadwy” Ann a datgelodd fod y gwaith o chwilio am ei holynydd bellach ar y gweill.”

Meddai: “Trwy frwdfrydedd, creadigrwydd ac ymroddiad llwyr Ann, mae’r ŵyl wedi goroesi a ffynnu drwy ymateb yn gadarnhaol i’r newidiadau mewn cymdeithas a chwaeth gerddorol cynulleidfaoedd.”

“Mae cymuned yr ŵyl o ran cynulleidfaoedd, cerddorion, cyfansoddwyr, cantorion a phwyllgor yr ŵyl yn ddyledus iawn iddi ac mae’r gwaddol y mae’n ei drosglwyddo yn dyst i’w doniau anhygoel.”

“Rydym yn awr yn bwrw iddi i chwilio am gyfarwyddwr artistig newydd a bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus esgidiau mawr i’w llenwi oherwydd bod Ann yn dipyn o gymeriad. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am y swydd gysylltu â caroline@nwimf.com.”

Mae’r ŵyl eleni yn seiliedig ar thema Gorwelion a bydd y cyngerdd cloi ar ddydd Sadwrn, Medi 30 ar ffurf ffarwel i Ann.

Bydd yn cynnwys y NEW Sinfonia, Côr Cymunedol Lleisiau NEW a’r unawdwyr Lisa Dafydd a Dafydd Jones.

Hefyd yn cymryd rhan bydd Ann ei hun a’i gŵr, y bariton medrus, Kevin Sharp.

“Bydd y cyngerdd cerddorfaol yn cynnwys y cerddorion ifanc o’n Prosiect Offerynnol ac ychydig o Opera a hoff ddarnau.”

“Bydd y rhaglen yn cynnwys ein gwaith Comisiwn yn 2013 gan Paul Mealor ‘Gweddi Gymreig’ a chomisiwn newydd dilynol gan Paul Mealor ar gyfer 2023 ‘Bendith Cymreig’”, meddai Ann.

Ymhlith yr uchafbwyntiau yn ystod yr ŵyl bythefnos o hyd bydd dychweliad Drymwyr Mugenkyo Taiko i Lanelwy. Dywedodd Ann Atkinson fod galw mawr iddynt ddychwelyd i’r ŵyl ar ôl codi to’r Gadeirlan y llynedd.

Bydd y pedwarawd acwstig hynod o Fanceinion Kabantu yn cyflwyno eu cerddoriaeth wreiddiol eclectig, wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, a bydd yr ensemble lleisiol dawnus Tenebrae, sydd wedi ymweld â’r ŵyl ar ddau achlysur blaenorol, yn perfformio cerddoriaeth y Dadeni ac yn nodi 400 mlynedd ers marwolaeth y cyfansoddwr o Loegr William Byrd.

Cyngerdd dwyieithog fydd ‘Gorwelion y Gair’, yn cynnwys Corau Meibion Trelawnyd a Bro Glyndŵr - y ddau yn cael eu harwain gan Ann Atkinson fel eu cyfarwyddwr cerdd. Yn ymuno â nhw bydd Côr BSL Dee Sign a’r grŵp gwerin hynod boblogaidd, Pedair. Bydd y bardd Aled Lewis Evans hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Yn ymuno â cherddorfa NEW Sinfonia, Cerddorfa Breswyl yr ŵyl, bydd y feiolinydd Americanaidd Tai Murray a’r pianydd Teleri Sian o Gymru mewn cyngerdd. Ac mae rhaglen y cyn-delynores Frenhinol Catrin Finch a’r feiolinydd o’r Iwerddon Aoife Ní Bhríain wedi’i hysbrydoli gan wenyn yn teithio dros y môr o Gymru i Iwerddon yn y 6ed Ganrif.

Mae rhagor o fanylion am raglen yr ŵyl ar gael ar-lein yn www.nwimf.com. Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 01745 582929 (Mercher - Gwener, 10 - 4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (Llun - Sadwrn, 10 - 6 ).