Mae’r Bont Ddiwylliannol yn dathlu prosiectau cyfnewid sy’n cysylltu diwylliannau, a hynny drwy gydweithio rhwng holl gynghorau celfyddydau’r Deyrnas Unedig a phrif sefydliadau diwylliannol yr Almaen. Drwy ariannu partneriaethau rhwng yr Almaen a’r Deyrnas Unedig, mae’r rhaglen yn ceisio creu perthnasau newydd a meithrin cydweithio artistig a democratiaeth ddiwylliannol.

Mae'r rhaglen Bont Ddiwylliannol nawr yn gwahodd ceisiadau ar gyfer 2023-2024. Dyma gyfle i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen sy’n hybu democratiaeth ddiwylliannol ac sy’n dymuno meithrin neu ddatblygu partneriaethau dwyochrog i weithio gyda’i gilydd a rhannu ymarfer artistig. 

Dyddiad cau er mwyn cyflwyno cais: 12pm (DU) 1pm (yr Almaen), 26 Hydref 2022

 

Mae’r rhaglen yn agored i bob sefydliad diwylliannol gydag arbenigedd profedig mewn ymarfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. 

Rhaid i’r partneriaethau gynnwys o leiaf un partner o’r Almaen ac un partner o’r Deyrnas Unedig, a hynny o unrhyw un o’r pedair cenedl: Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Yn 2021, lansiodd Pont Ddiwylliannol ei rhaglen beilot i gefnogi saith o brosiectau newydd a fyddai’n annog cydweithio rhwng sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig a’r Almaen. Y nod oedd cychwyn prosiectau sy’n sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol, a hynny drwy gyfnewid a deialog sy’n cysylltu diwylliannau.

Ymhlith y grŵp cyntaf a gafodd gyllid roedd prosiect rhwng Cymru a’r Almaen, gyda sefydliad Plant y Cymoedd (Valleys Kids) yn cydweithio â Lübeck University of Musik ac Emanuel Geibel-Schule ar 'Mind the Gap'. Prosiect oedd hwn a geisiai greu rhwydwaith ymarferol o egin artistiaid er mwyn cefnogi pobl ifanc a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan weithio i roi gwell mynediad i’r celfyddydau.

 

Rhaglen bartneriaeth yw Pont Ddiwylliannol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Almaen ac mae’n cael ei chefnogi gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, British Council, Creative Scotland, Fonds Soziokultur, Goethe-Institut Llundain.