Cefndir

Rhaglen ddatblygu yw Hadu’r Dyfodol. Bydd yn fodd i artistiaid a chynhyrchwyr hen a newydd sydd heb fod yng Ngŵyl Ymylol Caeredin o’r blaen ddatblygu gwaith i’w ddangos yno.

Bydd Hadu’r Dyfodol yn cynnig pecyn gwybodaeth a chyfleoedd i rwydweithio a gweld gwaith o safon.

Bydd y rhaglen yn ategu cyfle arddangos Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cymru yng Nghaeredin.

Rhaid i chi fod ar gael i fod yng Nghaeredin yn ystod yr wythnos arddangos, 22 Awst 2022 – 26 Awst 2022 a bydd gweithdy cyn Gŵyl Ymylol Caeredin hefyd yn cael ei gynnal ddiwedd mis Gorffennaf 2022.

5pm ddydd Mercher 8 Mehefin 2022 yw’r dyddiad cau ymgeisio.

Cymorth

Gweler y canllawiau isod.

Nodiadau cymorth gyda chyllid12.05.2022

Canllawiau Hadu'r Dyfodol