Cefndir

Caiff prifysgolion a cholegau Cymru'r cyfle i enwebu dau fyfyriwr sy'n graddio yn yr haf a fydd yn elwa o'r cyfle i ymsefydlogi ym mlwyddyn gyntaf eu gyrfa.  Rhaid iddynt ddangos ymroddiad a thalent yn ystod y cwrs.

Gadawodd Brian Ross ei ystâd i’r Cyngor i annog a chefnogi artistiaid sydd ar y gweill i ddatblygu eu gwaith a’u gyrfa. Ers 2011 cefnogwn drwyddi artistiaid gweledol sy'n graddio yng Nghymru neu rai sydd wrth gam cynnar yn eu gyrfa. Mae'n bleser gennym gynnig pum gwobr i fyfyrwyr gradd Celfyddyd Gain sy'n graddio, gyda phob un yn derbyn £3,000 am flwyddyn.

Mae ein diffiniad o’r celfyddydau gweledol yn eang, o’r traddodiadol i’r cyfoes, gan gynnwys, ffotograffiaeth, cerflunio, gosodiadau, ffilm, creu printiau, paentio, darlunio a pherfformio.

Caiff prifysgolion a cholegau Cymru y cyfle i enwebu myfyrwyr sy'n graddio yn yr haf a fydd yn elwa o'r cyfle i ymsefydlogi ym mlwyddyn gyntaf eu gyrfa. Rhaid iddynt ddangos ymroddiad a thalent yn ystod y cwrs.

Croesawn yn arbennig enwebu myfyrwyr o gefndiroedd a dangynrychiolir. Gall hyn olygu pobl sy'n wynebu rhwystrau i gyfleoedd oherwydd eu rhywioldeb, eu hethnigrwydd, eu cefndir cymdeithasol ac economaidd neu eu hanabledd.

Bwriad yr arian yw galluogi'r myfyriwr graddedig i barhau a datblygu ei ymarfer, er enghraifft: rhent stiwdio, teithio, mentora neu offer.

Mae gwybodaeth am gymhwysedd a meini prawf asesu wedi'u cynnwys yn y canllawiau isod, gweler yr adran Cymorth.

I enwebu, anfonwch e-bost at gwobraucoffa@celf.cymru gyda'r wybodaeth ganlynol wedi'i chynnwys fel un atodiad ar ddogfen word neu pdf.

  • enw, cyfeiriad e-bost ac iaith cyswllt (Cymraeg neu Saesneg) y myfyriwr
  • datganiad (500 gair ar y mwyaf) i esbonio eich rhesymau dros enwebu
  • CV a Datganiad Artist
  • 6-8 llun o’i waith diweddar neu 5 munud o ffilm/perfformiad. Os oes dolenni â chyfrinair, rhowch wybod inni am y cyfrinair

Gwneir y penderfyniadau dyfarnu erbyn dechrau mis Gorffennaf 2022.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid01.04.2022

Canllawiau Gwobr Goffa Brian Ross