Cefndir

Sesiwn Gwybodaeth Gwrando (i’w ganfod yn is lawr ar y dudalen)

 

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn nodi dechrau Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig yn 2022 drwy lansio rhaglen newydd ar gyfer artistiaid a sefydliadau celfyddydol. Nod Gwrando yw meithrin y gelfyddyd o wrando ar ieithoedd a chymunedau sydd mewn perygl a dysgu am eu hymdrechion i warchod y tir y maent yn preswylio ynddi.

Mae gwrando ar ieithoedd brodorol gyda a thrwy ieithoedd brodorol eraill yn galluogi archwilio diwylliannol, creadigol ac ieithyddol dwfn.  O'r archwiliadau creadigol hyn rydym yn bwriadu adeiladu ar gydweithrediadau a chyfleoedd i'r dyfodol. Ystyrir y gronfa hon fel y cam cyntaf i fentro’n ddyfnach yn ystod y degawd i ddod. Bydd croeso arbennig i wrando ar gynigion trwy a chyda'r Gymraeg ond nid yw'n ofyniad unigryw.

Trwy’r rhaglen hon rydym yn gobeithio dysgu mwy am y cysylltiad rhwng iaith a’r amgylchedd. Mae gwrando ar ieithoedd amrywiol y byd yr un mor bwysig a buddiol â gwerthfawrogi amrywiaeth ecolegol ein byd naturiol.
 

Diben y gronfa

Mae Gwrando yn siwrne ddysgu a hwylusir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Diben y gronfa yw i gefnogi artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i:

  • wrando ar arweinwyr meddwl brodorol ​​ac artistiaid ledled y byd
  • rhannu'r hyn a ddysgir trwy weithgareddau dysgu a rhannu wedi’u hwyluso o fewn y rhaglen
  • rhannu eu hymateb creadigol i'w siwrne

Rydym yn disgwyl i’r prosiectau a chefnogir i ddechrau ym mis Chwefror 2023 a gorffen ym mis Medi 2023.

 

Beth mae’r gronfa yn ei gynnig?

Mae’r gronfa wedi cael ei chynllunio i roi lle ar gyfer gwrando a rhannu’r dysgu.  Mae gennym ni ddiddordeb ym mhwy yr ydych chi yn dymuno gwrando arno a pham, a sut ydych chi’n cynnig rhannu’r dysgu hwn.

Cyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y gronfa yw £30,000.

Lefel uchaf cefnogaeth yw £7,500 ar gyfer pob dyfarniad.

 

Bydd y grant yn cefnogi:

  • hyd at bedwar diwrnod o’ch amser i gyfranogi i weithgareddau dysgu a rhannu a hwylusir gan CRhC megis gweithdai a sesiynau dal fyny ar-lein gydag artistiaid eraill a'r tîm fel mannau diogel i rannu syniadau a dysgu
  • eich amser i ymgymryd â’ch gweithgaredd arfaethedig, deunyddiau cysylltiedig a chostau teithio
  • rhannu eich ymateb creadigol tuag at eich siwrnai.  Bydd rhan o’r broses yn cynnwys trafodaethau ynghylch sut orau i wneud hyn.

 

Rydym yn annog cynulleidfaoedd i gymryd rhan mewn ymarfer gwrando ac yn argymell y sgwrs hon sydd mewn recordiad fideo 3 rhan (Part 1 – THE CALL, Part 2 – THE RESPONSE, Part 3 – THE RESPONSE CONTINUES) – UNcommon Wealth - fel man cychwyn.

 

Beth os oes gen i gwestiwn neu os byddwn yn hoffi derbyn cymorth?

Cysylltwch â ni:
+44 29 2044 1300
info@wai.org.uk
Twitter | Facebook | Instagram

 

Sesiwn Gwybodaeth Gwrando

Recordiad o’r sesiwn a gynhaliwyd 24/11/22 a chopi o’r dolenni a rannwyd yn y sgwrs yn ystod y sesiwn:

 

Mae'r ddogfen hon hefyd yn cynnwys dolenni i wybodaeth bellach am y siaradwyr a'u gwaith.

 

Hoffem ddiolch eto i’n holl siaradwyr am eu cyfraniadau i’r sesiwn:

 

• Lubna Shaheen, Gŵyl Ziro a chyfarwyddwr a chynhyrchydd celfyddydau annibynnol yn Guwahati, India

• Leela Gilday, canwr/awdur caneuon ac Artist Brodorol ​​y Flwyddyn JUNO Award 2021

• Hinu te Hau, Cyfarwyddwr Sefydliad Diwylliannol Matariki a chydlynydd Rhwydwaith ​​Cerddoriaeth Brodorol y Byd

• Dr Veronica Calarco, artist o Awstralia sy’n byw yng Nghymru sy’n defnyddio printiau, peintio a gwehyddu i archwilio ei diddordeb gyda iaith a’r wlad y mae’n byw ynddi ac ymweld â hi.

• Gareth Bonello, cyfansoddwr caneuon ac aml-offerynnwr sydd yn cydweithio ag artistiaid brodorol o gymuned Khasi. Gogledd Ddwyrain India, trwy'r Deialogau Diwylliannol Cymraeg â Khasi, ac wedi rhyddhau albwm y Khasi Collective.

Cymorth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y canllawiau isod cyn i chi ddechrau cais.

Nodiadau cymorth gyda chyllid07.04.2021

Canllawiau Ariannu’r Loteri Genedlaethol

Nodiadau cymorth gyda chyllid04.10.2022

Canllawiau Cronfa Gwrando