Ydych chi’n: Artist? Cerddor? Bardd? Animeiddiwr? Llenor? Dramodydd? Ymarferydd Dawns? Storïwr? Gwneuthurwr Ffilmiau? Gwneuthurwr gemau? Crefftwr? Neu unrhyw fath arall o ymarferydd creadigol? Neu’n: Grŵp o unrhyw un/rhai o’r rhain? 

Ydych chi’n gallu gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac ysgoliona gyda’r gymuned?

Ydach chi’n credu ym mhŵer cymunedau i ymateb i’r heriau sy’n eu hwynebu?

Hoffech chi helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod a chyfathrebu neges/euon am yr hinsawdd i’r gymuned? 

Os hynny dyma’r comisiwn i chi!

Rydym yn chwilio am ymarferydd/wyr neu grŵp/iau o ymarferwyr creadigol i gydweithio a phlant ysgol yn ardaloedd GwyrddNi i greu ar hyd thema ‘Gweithredu Hinsawdd Gymunedol’.

Yn frâs: Bydd yr hyn yr ydych yn ei greu ar y cyd yn cyfrannu at weithredu hinsawdd leol drwy rannu neges gydag aelodau cymuned yr ardal. Mae llais pobl yn eu cymuned yn allweddol i holl waith GwyrddNi ac felly llais y plant fydd yn ganolog i’r neges sy’n cael ei gyfleu a sut caiff ei gyfleu. 

Yn ogystal â chydweithio a’r plant i greu’r ‘cynnyrch terfynol’, bydd y broses greadigol rydych yn ei hwyluso yn eu helpu i ganfod eu llais a’u neges am y thema dan sylw (mewn rhai ysgolion mae’r plant eisoes wedi cychwyn ar y gwaith hwn). Rydym yn agored i unrhyw ymarfer creadigol gall gyfrannu at gyrraedd y nod hwn.  

Pryd? Bydd y gwaith yn digwydd rhwng rŵan a diwedd Mehefin (yn factora i mewn y broses recriwtio, cyd-gynllunio, hyfforddiant a darparu’r gwaith).

Tâl: Rydym yn cynnig £300/diwrnod. Bydd 5 diwrnod o waith yn ynghlwm a bob ardal – felly £1500 fesul ardal. Rydym yn gweithio mewn 5 ardal mewn cyfanswm – mae croeso i chi ymgeisio am y gwaith oddi mewn i un, sawl un neu bob un o’r pum ardal.

Dyddiad cau: Tachwedd 29, 2024.
 

Dyddiad cau: 29/11/2024