Mae Theatrau Sir Gâr yn chwilio am reolwr/wraig llwyfan cwmni i ymuno â thîm BEAUTY AND THE BEAST, sy’n cael ei gynnal rhwng 14 a 28 Rhagfyr 2024 yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.
Eleni bydd y pantomeim yn cael ei gynhyrchu’n fewnol yn Theatr y Lyric, mewn trefniant â chynhyrchwyr pantomeim profiadol, Imagine Theatre Ltd. Bydd y tîm cynhyrchu yn cynnwys cymysgedd o staff cynhyrchu/technegol mewnol a staff llawrydd.
Mae hwn yn gontract cyfnod penodol ar gyfer gwasanaethau, sy'n mynnu eich bod yn hunangyflogedig.
I wneud cais anfonwch CV a naill ai llythyr eglurhaol, fideo, neu ffeil sain yn mynegi eich diddordeb yn y gwaith at lyricpanto@gmail.com
Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 25 Medi 2024 5pm
Ffi: Hyd at £675 y wythnos yn dibynnu ar brofiad + costau cynhaliaeth os yw'n berthnasol
Ymrwymiad: Dydd Llun 25 Tachwedd – Dydd Llun 30 Rhagfyr 2024