Mae C&B Cymru yn chwilio am uwch reolwr profiadol i ymuno â'i dîm.
Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
Llawn amswer, wedi’i leoli yng Nghaerdydd
Cyflog - £40K
Bydd y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes ymgymryd â rôl arweiniol mewn tyfu a chynnal perthynas C&B Cymru gyda’r sector corfforaethol.
Trwy weithio’n agos gyda’r tîm, bydd y Cyfarwyddwr yn cychwyn a datblygu partneriaethau ag arweinwyr busnes a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan sicrhau incwm newydd a fydd yn cynorthwyo C&B Cymru i weithredu’n effeithiol.
Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau dylanwadu hynod ddatblygedig, ymagwedd reddfol at ddatrys problemau a hanes profedig mewn cynhyrchu incwm.
Am fanylion pellach a phecyn cais, cliciwch yma neu e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, 29 Medi 2025
Dyddiadau’r cyfweliadau: 8 Hydref 2025
Mae C&B Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl sy’n Anabl, B/byddar a/neu Niwrorywiol, yn ogystal â’r rheini o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig gan gynnwys cymunedau Roma, Teithwyr.
Mewn ymgais i greu gweithle cyfeillgar i ddyslecsia, rydym yn sicrhau bod gennym ffontiau Darllenadwy