Arloesi Dolgellau, Ty Newyddion, Dolgellau

£17,320 y.b. (gros)

Rhan amser. Bydd angen rhywfaint o waith gyda'r nos/penwythnos. Cytundeb dwy flynedd.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 27 Medi 2024

Mae Arloesi Dolgellau (CBC) yn fenter newydd sydd wedi ei lleoli yng nghanol Dolgellau. Mae ganddo gynllun 5-mlynedd i ddatblygu sgiliau lleol ac entrepreneuriaeth mewn perthynas â thechnolegau digidol newydd yn ogystal â chynnig adnodd cymunedol cynaliadwy ar gyfer dysgu a chreadigedd trwy weithdai a "Maker Space.” Trwy Menter Môn, rydym wedi derbyn grant gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru i ariannu aelod o staff rhan amser am 2 flynedd.

Bydd y cydlynydd/technegydd yn cymryd rôl arweiniol wrth gydlynu gweithgareddau sy’n digwydd o fewn Arloesi Dolgellau ac wrth reoli’r gofod ffisegol (gan gynnwys defnydd effeithiol a diogel o’r offer). Bydd y cydlynydd/technegydd hefyd yn cynorthwyo gydag amrywiaeth o brosiectau dylunio cynnyrch y mae Arloesi Dolgellau yn rhan ohonynt. Mae deiliad y swydd yn adrodd i'r cyfarwyddwyr.

I gael disgrifiad swydd a manyleb person, dilynwch y ddolen:  
 

Dyddiad cau: 27/09/2024