Coronafeirws: ceisiadau newydd am arian
15.04.20
Rydym ni am wneud ein gorau glas i fuddsoddi mewn artistiaid a sefydliadau celfyddydol ar yr adeg anodd yma. Mae'n amlwg bod llawer o bobl yn wynebu dyfodol ansicr gydag anawsterau newydd yn ymddangos yn ddyddiol. Yn y tymor byr ein blaenoriaeth fydd dod o hyd i ffyrdd effeithiol o ymateb i anghenion brys y sector. Gyda Llywodraeth Cymru rydym ni’n gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion ymarferol. Am y chwech mis nesaf felly, ni fyddwn ni’n derbyn ceisiadau newydd i'n rhaglenni ariannu. Byddwn ni’n adolygu'r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf gan gyhoeddi unrhyw newidiadau yn ein ffordd o weithio yn y man.
Os ydych yn unigolyn yng Nghymru, efallai y byddwch chi’n gymwys i wneud cais am grant bach am hyd at £10,000.
Os ydych chi wedi cael grant gennym o’r blaen, gallwch chi wneud cais am grant mawr, rhwng £10,001 a £50,000.
Mae rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwyster a sut i wneud cais yn y ddogfen canllawiau isod. Ond cyn bwrw ati, darllenwch y ddogfen yn ofalus i ateb rhai o’ch cwestiynau a’ch helpu i ddeall pa fath o brosiectau rydym ni am eu cefnogi.
I fod yn gymwys i ymgeisio fel unigolyn (sy’n cynnwys unig fasnachwyr ac unigolion sy’n masnachu fel busnes), rhaid ichi:
- gallu ymgeisio yn enw cyfreithiol yr unigolyn sy’n gwneud y cais
- cael cyfrif banc yn eich enw cyfreithiol (gweler yr adran am gyfrif banc yn y Canllawiau)
- bod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru
- bod ar drywydd gyrfa artistig neu gael eich cyflogi’n broffesiynol yng nghelfyddydau Cymru (sy’n cynnwys ymarferwyr llawrydd)
- peidio â bod mewn addysg amser llawn yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol
- gallu darparu tystiolaeth o’ch hanes o hwyluso neu greu gwaith artistig i’w gyflwyno i gynulleidfaoedd
- peidio â bod yn ddiffygiol mewn unrhyw gytundeb ariannol â Chyngor Celfyddydau Cymru
- peidio â chael unrhyw ofynion hwyr ar unrhyw arian arall gan Gyngor Celfyddydau Cymru