Mae’r Gronfa ymsefydlogi i unigolion wedi’i hanelu at unigolion sy’n edrych ar ffyrdd o ddatblygu eu gwaith neu newid y ffordd y maent yn gweithio, ac sydd angen cefnogaeth i’w helpu i wneud hyn.
Nod y gronfa yw cefnogi artistiaid llawrydd ac ymarferwyr creadigol llawrydd sy'n gweithio yn y sector dielw yng Nghymru sy'n ceisio goroesi'r bygythiad i'w bywoliaeth oherwydd coronafeirws. Bwriad yr arian yw eu helpu i feithrin cadernid a chynnal ymarfer creadigol.
Mae grantiau rhwng £1,000 a £10,000 ar gael.
Mae'r Gronfa yma nawr ar gau.
Rydym ni’n gobeithio gwneud penderfyniadau mewn 4 wythnos o'r dyddiad cau.
Beth i’w wneud os na allwch chi dderbyn arian o’r Loteri Genedlaethol
Os nad ydych chi’n gallu derbyn arian Loteri Genedlaethol am unrhyw resymau, dylech chi uwchlwytho llythyr gyda’ch cais yn esbonio pam mae hyn yn wir. Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n ceisio ariannu eich prosiect o arian o ffynonellau eraill.
Pe hoffech holi cwestiwn i ni trwy gyfrwng BSL, byddem yn hapus iawn i drefnu galwad fideo ar amser sy’n gyfleus i ni i gyd. Cysylltwch â ni trwy e-bostio grantiau@celf.cymru i gael gwybodaeth bellach.
Mae'r gronfa yma nawr ar gau.