Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw hyrwyddo'r manteision y gall y celfyddydau eu cynnig i lesiant y boblogaeth a chreu Cymru fwy cyfartal, ddiwylliannol a chynaliadwy.

Mae'n hysbys y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol gael effaith gadarnhaol ar lesiant corfforol a meddyliol person. Gall y celfyddydau helpu cleifion i gynnal eu hiechyd meddwl a chorfforol gan leihau'r galw ar wasanaethau'r GIG.

Ar hyd a lled Cymru, mae enghreifftiau gwych i’w cael o bartneriaethau ym meysydd celfyddydau ac iechyd. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn darparu therapi creadigol unigryw i gleifion Parkinson y De; cynllun ar y cyd rhwng Cymdeithas Strôc a Head4Arts yw ‘Strike a Chord’ sy’n trefnu grwpiau canu ar gyfer goroeswyr strôc; prosiect arobryn gan Wasanaethau Celf Sir Ddinbych yw Ymgolli Mewn Celf ar gyfer pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr. Erbyn hyn, mae’r cynllun ar waith mewn Awdurdodau Lleol eraill yn y Gogledd Ddwyrain.

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae tystiolaeth gynyddol a gwydn sy’n dangos fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl, llesiant a salwch corfforol. Bydd y Memorandwm hwn yn ein galluogi i hyrwyddo'r manteision hyn i'r cyhoedd ac i wneuthurwyr polisi."

Dywedodd Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phwyllgor Polisi Conffederasiwn GIG Cymru:

"Ar draws y GIG mae ein haelodau'n hyrwyddo manteision y celfyddydau i iechyd a llesiant pobl, ac mae'r GIG eisoes yn cefnogi ystod eang o fentrau ledled y wlad. Gan weithio gyda'n gilydd am y tro cyntaf, bydd ein dau sefydliad yn codi ymwybyddiaeth ymhellach o fentrau celfyddydol, yn cefnogi hyrwyddo arferion da ac yn helpu i gynyddu cydnabyddiaeth y cyhoedd o fanteision iechyd a llesiant wrth fod yn greadigol "