Heddiw mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi bod Sefydliad Freelands wedi cyfrannu £0.5 miliwn i gefnogi'r gronfa ymateb brys y Cyngor i unigolion. Erbyn hyn y cyfanswm sydd yn y gronfa i artistiaid ac ymarferwyr creadigol llawrydd yw £2 miliwn. Mae'r gronfa yn rhan bwysig o gefnogaeth gyffredinol y Cyngor i’r gymuned greadigol yn ystod coronafeirws.

Yr wythnos yma hefyd y daeth ceisiadau i ben i rownd gyntaf y gronfa, gyda dros 280 o artistiaid yn ymgeisio. Bydd y rownd nesaf yn agor ddydd Mawrth 28 Ebrill 2020.

Mae'r gronfa ymateb brys i unigolion ar gyfer ymarferwyr creadigol llawrydd sy'n profi caledi ariannol neu'n colli incwm oherwydd coronafeirws. Mae hwn yn arian brys yn y tymor byr i alluogi unigolion i oroesi'n ariannol ac yn greadigol.

Mae'r gronfa’n helpu unigolion i ddiwallu eu hanghenion ariannol mwyaf tra byddant yn chwilio am gymorth posibl o'r Llywodraeth neu am ffyrdd eraill o gynnal eu gweithgarwch.

Mae'r gronfa ymateb brys yn elfen o gronfa Wytnwch y Celfyddydau a sefydlodd y Cyngor gyda Llywodraeth Cymru gydag arian o'r Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan Dŷ Cerdd a Llenyddiaeth Cymru. Gyda chyfraniad Sefydliad Freelands bydd gwerth cyffredinol y gronfa wytnwch i’r celfyddydau yn cyrraedd dros £7.5 miliwn.

Mae’r Cyngor am roi'r cyfle gorau i sefydliadau oroesi coronafeirws a darparu cefnogaeth iddynt ymsefydlogi a chynnal eu busnes yn ystod y misoedd nesaf.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr y Cyngor: "Rydym ni’n hynod ddiolchgar i Sefydliad Freelands am ei gyfraniad pwysig i'n cronfa ymateb brys. Mae'r buddsoddiad yn ein galluogi i gynnig pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth i'r llu o unigolion a gweithwyr creadigol llawrydd sy’n brwydro yn erbyn caledi mawr oherwydd coronafeirws."