Sefydlwyd Cronfa Gwytnwch gwerth £7 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru gyda £ 5.1 miliwn o'r gronfa yn dod o ffynonellau'r Loteri Genedlaethol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am rhoi’r cyfle gorau i sefydliadau allu oroesi argyfwng COVID 19 a’u helpu i ail-gydio ynddi a chynnal eu hunain dros y misoedd nesaf.   

Mae'r Gronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau yn agor ddydd Mawrth 21 Ebrill 2020 i geisiadau gan sefydliadau celfyddydol sy'n gweithio yn y sector dielw yng Nghymru sy'n cael anhawster ariannol uniongyrchol o ganlyniad i golli incwm a phwysau ar eu llif arian yn sgil coronafeirws. Rhoddir blaenoriaeth i'r sefydliadau hynny sy'n wynebu'r heriau ariannol mwyaf uniongyrchol a llym. Bydd grantiau o hyd at £ 35,000 ar gael i'w defnyddio cyn pen chwe mis ar ôl derbyn grant.

Mae manylion llawn a rhestr o Gwestiynau ac Atebion ar gael ar wefan Cyngor y Celfyddydau https://arts.wales/cy/cronfa-ymsefydlogi-i-sefydliadau . Bydd y ddogfennaeth hefyd ar gael mewn fformatau Easyread a BSL.

Daw'r gronfa ddiweddaraf yn dilyn y cyhoeddiad am Gronfa Ymateb Brys i Unigolion ddydd Mawrth 14 Ebrill 2020 a bydd Cronfa Sefydlogi i Unigolion yn agor ddydd Gwener 29 Mai 2020.