Mae darganfod ffyrdd newydd i annog rhagor o bobl, ac amrywiaeth ehangach o bobl, i fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau yn ganolog i’r uchelgais hon.

Felly rydyn ni’n herio ein hunain, y sefydliadau allweddol rydyn ni’n cyllido, a’r partneriaid hynny rydyn ni’n gweithio gyda nhw, i roi mwy o bwys i’n hymgyrch i greu Cymru sy’n fwy cyfartal. Fe allwch chi ddarllen mwy am y targedau rydyn ni’n eu gosod yn ein Cynllun Camau Gweithredu Cydraddoldeb Strategol isod.