Mae pum person yn rhan o'r Uwch Dîm Arwain: Dafydd Rhys, Diane Hebb, Rebecca Nelson, Richard Nicholls a Lleucu Siencyn. Darllenwch mwy am eu cefndiroedd a'u meysydd arbenigol isod.

Dafydd Rhys, Prif Weithredwr

Mae Dafydd wedi cael gyrfa hir yn y diwydiant teledu fel cynhyrchydd cynnwys a darlledwr. Dechreuodd ei yrfa gyda HTV Cymru cyn symud i'r sector annibynol. Mae hefyd wedi cael swyddi fel Comisiynydd Golygyddol yn S4C, Cyfarwyddwr Cynnwys y sianel tan Hydref 2016, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydol Aberystwyth a Chadeirydd AM - ap digidol y sector gelfyddydol yng Nghymru 2021/22.

Dechreuodd yn y swydd hon, ganol Hydref 2022.

 

Diane Hebb, Cyfarwyddwr (Ymgysylltu â’r Celfyddydau)

Diane Hebb yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n datblygu, rheoli a gweithredu strategaethau a rhaglenni gyda’r nod o gael rhagor o bobl i greu a mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

Ar ôl gwneud gradd mewn dawns, symudodd i Gymru i ymuno â chwmni dawns mewn addysg. Wedyn aeth yn fywiogydd a chydlynydd dawns gyda Chelfyddydau Cymunedol y Rhondda.

Ymunodd â Chyngor Celfyddydau Cymru ym 1992 ei Swyddog Dawns. Yma mae wedi ymgymryd â llawer o gyfrifoldebau:

  • arwain yn strategol ym maes Cynhwysiant a Chyfranogiad
  • drafftio strategaeth gydraddoldeb gyntaf y Cyngor
  • cyd-ysgrifennu strategaeth gyntaf y Cyngor i bobl ifanc a’i gweithredu

Mae ei thîm presennol yn gweithio mewn sawl maes, gan gynnwys gwaith comisiwn â'r nod o ddatblygu ymgysylltiad a chydraddoldeb. Ei phrif waith yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnig rhaglen uchelgeisiol ac arloesol, Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, sy’n i gefnogi ysgolion i ymbaratoi at y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Hi yw arweinydd strategol y Cyngor ym maes Adnoddau Dynol ac mae hefyd yn gyfrifol am:

  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor
  • datblygu cynulleidfaoedd
  • datblygu lleoliadau cyflwyno Cymru
  • y celfyddydau cyfranogol a chymunedol
  • y celfyddydau a phobl ifanc
  • dysgu creadigol
  • teithio cymunedol
  • Noson Allan

Mae’n angerddol am ymgysylltu â'r gymuned a'r effaith drawsnewidiol y gall y celfyddydau ei chael ar bobl a chymunedau.

 

Rebecca Nelson, Cyfarwyddwr (Cyllid a Gwasanaethau Busnes)

Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes Cyngor Celfyddydau Cymru yw Rebecca. Mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn economeg o Brifysgol Manceinion ac yn gyfrifydd siartredig gyda 17 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae’n arbenigydd mewn cyfrifyddu elusennol ac yn meddu ar ddiploma cyfrifyddu siartredig mewn Cyfrifo Elusennau gan Sefydliad Cyfrifwyr Cymru a Lloegr. Mae hi hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Hyfforddodd gyda chwmni cyfrifyddu ymhlith y rhai mwyaf a symudodd yn gyflym i fod yn uwch reolwr. Llwyddodd reoli rhai o'r cleientiaid mwyaf yng Nghymru a gorllewin Lloegr gan gynnwys:

  • llywodraeth ganolog
  • llywodraeth leol
  • iechyd
  • elusennau
  • addysg bellach ac uwch
  • pensiynau

Mae’n arbenigo mewn sicrwydd ac wedi gweithio ym meysydd archwilio allanol a mewnol ac adrodd yn ariannol. Mae ganddi gefndir mewn sicrhau risg a llywodraethu, cynnal adolygiadau mewn sefydliadau proffil uchel a siarad mewn digwyddiadau.

Yn ei swydd bresennol hi sy’n gyfrifol am oruchwylio'r Cyngor yn strategol ac ariannol. Hi hefyd yw'r Ymddiriedolwr a enwebwyd gan y gweithwyr ar gronfa bensiwn y Cyngor sy’n gronfa rhwng sawl cyflogwr gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r Alban Greadigol.

Mae wedi’i chymhwyso gyda'r Sefydliad Siartredig ym maes Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddu. Mae’n teimlo’n angerddol am gyfrifyddu a chyllid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac am ddatblygu pobl a sefydliadau eraill. Daeth yn Gymrawd o'r Sefydliad Siartredig yn 2018 a chafodd ei hethol yn Llywydd Sefydliad Cymru ym Mawrth 2019 am ddwy flynedd.

 

Richard Nicholls, Cyfarwyddwr (Gweithrediadau)

Mae gan Richard Nicholls o Wrecsam 21 mlynedd o brofiad o ariannu ym meysydd y celfyddydau, addysg, iechyd a lles. Dechreuodd ei yrfa ym maes marchnata'r celfyddydau yn Lloegr gan weithio i gleientiaid gan gynnwys Tate Lerpwl ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Wedyn aeth yn Rheolwr Gwerthu a Datblygu i Everyman a Chwaraedy Lerpwl.

Am bum mlynedd, bu’n Ddirprwy ac yn Bennaeth Datblygu Dros Dro i Brifysgol Lerpwl gan weithio ar ei hymgyrch gyfalaf gwerth £70 miliwn i adfer Adeilad Fictoria fel oriel gelf ac amgueddfa.

Yn 2008, symudodd i Gaerdydd ac aeth yn Gyfarwyddwr Adnoddau Incwm i Ofal Cancr Tenovus ac Age Cymru. Wedyn ymunodd ag Amgueddfa Cymru fel Cyfarwyddwr Datblygu. Yno arweiniodd dîm i sicrhau arian i ailddatblygu Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i dri phlentyn.
 

Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr (Datblygu'r Celfyddydau)

Lleucu yw Cyfarwyddwr Datblygu Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae ei meysydd cyfrifoldeb yn cynnwys perthynas y sefydliad a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau, Yr Iaith Gymraeg, Diwydiannau Creadigol a gwyliau a digwyddiadau - yn ogystal â datblygu cyfleoedd ar gyfer gwahanol gelfyddydau.  Be hefyd yn arwain ar bartneriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn nathliadau pêl-droed a chelfyddyd Gŵyl Cymru.